Saturday, December 12, 2015

fideos marco bianchi

Dw i'n mynd i goginio couscous efo llysiau ac eog mewn tun! Prin fy mod i'n defnyddio couscous ond dw i'n benderfynol o brofi'r saig hon wedi gweld fideo gan Marco Bianchi. Darganfyddiad newydd ydy ei fideos coginio ar y we. Mae'r Eidalwr clĂȘn hwnnw'n dangos sut i wneud seigiau iach a blasus mewn modd mor bleserus. Na cha' i wneud popeth oherwydd nad oes rhai llysiau ffres ar gael yma (yn annhebyg i le mae o'n byw ynddo.) Fe geisia' i fy ngorau glas, a gwella fy Eidaleg ar yr un pryd. 

No comments: