Wednesday, December 9, 2015

panig

Ces i fraw yn Walmart ddoe. Pan oeddwn i'n barod i dalu, methais ffeindio'r cerdyn credyd yn fy mag. Gofynnais y ddynes at y til i gadw fy nwyddau er mwyn mynd i'r car a chwilio amdano fo rhag ofn. Dim. Roeddwn i'n ofni ei fod o wedi cael ei ddwyn tra oeddwn i'n siopa; dechreuais feddwl y byddwn i'n gorfod cau'r cyfrif. Es i'r swyddfa bost cyn mynd i Walmart. A dyma'u ffonio nhw rhag ofn. "Oes, mae'ch cerdyn chi gynnon ni," meddai dynes y swyddfa. Diolchais i Dduw. Talais am y nwyddau efo'r cerdyn debyd (methais gofio mewn panig bod gen i hwn) a mynd i'r swyddfa bost i nôl y cerdyn yn ddiogel.

No comments: