Friday, December 11, 2015

siopa yng nghanol y dref

Roedd hi'n edrych i mewn ffenestr siop ddillad; penderfynodd gerdded i mewn ...... Mae'n olygfa gyffredin hyd yma. Yr hyn a wnaeth yr hanesyn hwnnw'n erthygl newyddion heddiw yn Trieste, yr Eidal oedd mai hwyaden oedd "hi". Roedd hi'n ymddwyn heb fymryn o ofn wrth y bobl yn edrych arni efo gwen. Galwodd y perchennog gymorth anifeiliaid; dalion nhw'r hwyaden a mynd รข hi i le iachach iddi, sef pwll mewn parc gerllaw.

1 comment: