Thursday, July 29, 2010

bargen

Am y tro cyntaf ers i mi ddechrau gwirfoddoli mewn siop elusen leol, es i ynghyd â fy nwy ferch i'r siop yn gwsmer. Diwrnod bargen ydy hi heddiw, hynny ydy cewch chi brynu cydaid o ddillad am $5. Ffeindiais i drowsus perffaith, steil arbennig na chewch chi ei ffeindio yn unman y dyddiau hyn; hen ffasiwn mewn geiriau eraill! Prynon ni wyth eitem rhyngddon ni yn y diwedd (llai na chydaid ond dim ots!) ac roedd pawb yn fodlon.

Wednesday, July 28, 2010

ar daith

Dw i newydd sylwi bod yna wefan newydd i blant ysgol Cymraeg sy'n wych i ddysgwyr hefyd; storiau'r bobl ymfudodd yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf ydyn nhw, ac maen nhw'n cael eu hadrodd gan blant. Gwrandawais ar dair stori bellach; dau gydag acen ogleddol a'r llall gydag un ddeheuol. Mae dyddiaduron mewn print yn cyd-fynd â'r ffeiliau sain hefyd.

Tuesday, July 27, 2010

cylchfan


Clywais i Dafydd a Caryl yn sôn am gylchfan yn Florida y bore 'ma; roedd nifer o ddamweiniau traffig o gwmpas y gylchfan newydd achos bod hi'n drysu'r bobl sy ddim yn gyfarwydd â hi.

A dweud y gwir, er mod i ddim yn gyrru ond eistedd ar sedd wrth fy ffrind, roedd cylchfannau'n rhoi braw i mi yng Nghymru. Maen nhw i fod i'ch achub rhag aros fel wrth oleuadau traffig, ond rhaid aros am eich troeau, yn hir braidd weithiau, on'd oes? Wrth gwrs mod i'n gallu gweld y manteision hefyd.

Tynnais i lun o un o'r cylchfannau yng Nghaernarfon i adrodd yr hanes wrth fy nheulu!

Saturday, July 24, 2010

marchnad ffermwyr




Mae'n braf ac yn boeth bore dydd Sadwrn; es i farchnad y ffermwyr am y tro cyntaf eleni. Roeddwn i dipyn yn hwyr ond roedd yna ddigon o lysiau, ffrwythau, bara, sebon a chig oen! Prynais i datws, tomatos, nionod, india-corn, cantalope a sebon llefrith gafr.

Un o bleserau mynd i farchnad ffermwyr ydy siarad â'r bobl. Des i ar draws dwy ffrind welais i mohonyn nhw ers tro'r bore 'ma. Roedd yn braf clywed telyn a ffidl ffermwr ar gefn ei pick-up hefyd.

Bydd rhaid i mi fynd eto.

Friday, July 23, 2010

celf ar gae reis

Mynydd Fuji, Mona Lisa, Napoleon ac eleni 'Benkei ac Ushiwaka' - dyma'r 18ed tro i ffermwyr Gogledd Japan i greu celf ar eu cae reis. (Cliciwch y llun i weld lluniau eraill.)

Roeddwn i'n meddwl mai gwaith cyfrifiaduron oedd y gelf, ond na, gwahanol fath o reis go iawn ydy hi. Bydd y ffermwyr yn plannu reis yn ôl thema'r flwyddyn yn y gwanwyn. Yna, fe gewch chi weld y ganlyniad yn yr haf.

Dechreuon nhw'r fenter 18 mlynedd yn ôl er mwyn hyrwyddo economi'r ardal. Mae'n amlwg bod nhw'n llwyddianus gan fod nifer mawr o bobl yn dod i weld y gelf. Dyma fideo.




Monday, July 19, 2010

skype


Teclyn hwylus ydy Skype fel mae llawer o bobl yn gwybod. Tan yn ddiweddar doedd y camera ddim yn gweithio'n iawn oherwydd arafwch y gwasanaeth. Ces i fy synnu felly pan droais i'r camera ymlaen un diwrnod pan oeddwn i ar Skype a gweld llun clir. Ymyrrodd o ddim ar ansawdd y sain chwaith. Mae'n ymddangos bod ATT wedi gwella eu gwasanaeth.

Cawson ni sgwrs gyda'r teulu yn Japan neithiwr. Roedd yn braf cael eu gweld nhw yn ogystal â siarad â nhw. Dyma lun dynnodd y gŵr o'n plant yn mwynhau sgwrs fideo.

Friday, July 16, 2010

deian a loli

Nofel gyntaf un Kate Roberts ydy hon. Sgrifennodd hi am hynt a helynt efeilliaid, Deian a Loli ers eu diwrnod geni i'r adeg pan safon nhw arholiad ysgoloriaeth i ysgol y sir. Mae hi'n ysgafnach na 'Te yn y Grug' oherwydd mai am blant ac ar gyfer plant ydy'r nofel. Mae'r iaith braidd yn anodd i blant, tybiwn i, ond hwyrach bod y plant ers talwm yn fwy deallus. Ar y llaw arall, cawson nhw gansen ar fympwy'r athrawon hefyd; druan ohonyn nhw! Mwynheais i'r llyfr beth bynnag.