Es i a'r gŵr i Katfish Kitchen (eto) sydd yn arbenigo mewn seigiau catfish . Dw i ddim yn hoffi'r pysgod hynny o gwbl a dweud y gwir. Hoffi awyrgylch lleol y tŷ bwyta dw i fodd bynnag. Ces i fyrgyr gyw iâr (enfawr fel gweler!) yn ei le. Mae'r gŵr yn hoffi catfish ond cafodd ferdys wedi'u ffrio y tro 'ma.
Saturday, October 31, 2020
Friday, October 30, 2020
unwaith mewn lleuad las
Ataliodd y glaw a oedd yn bwrw am ddyddiau brinhawn ddoe; gwelwyd y lleuad bron lawn yr ail dro mewn mis. Unwaith mewn lleuad las oedd hi yn llythrennol. Gwelais i hi neithiwr yn y dwyrain a phen bore yn y gorllewin. Roedd hi mor hardd fel roeddwn i'n sefyll tu allan yn yr oerfel i'w gweld a gweld.
Thursday, October 29, 2020
pleidleisio'n gynnar
Cewch chi bleidleisio'n gynnar heddiw ac yfory yn Oklahoma. Dyma'r gŵr fynd i'r orsaf bleidleisio cyn i'r drws agor. Mae o'n bell fwrdd oddi wrth y drws blaen bron i awr yn ddiweddarach! Mae ciw hir o bobl yn sefyll yn amyneddgar yn y glaw oer. Welais erioed y fath o frwdfrydedd dros etholiad.
Wednesday, October 28, 2020
ymbarél coch
Mae tymor glaw byr ar Oklahoma ar hyn o bryd. Dw i ddim yn mynd am dro mewn glaw oherwydd diffyg esgidiau diddos. Wedi clywed y byddai hi'n bwrw'n drwm yn hwyrach, dyma benderfynu mynd tra oedd gen i gyfle, a chwiliais am ymbarél. Ces i fy synnu'n ffeindio un mawr coch na welais erioed gyda Collars and Cuffs, London ar yr handlen; mae'n rhaid perthyn i fy merch a oedd yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe am dymor flynyddoedd yn ôl. Mae'n fawr a pherffaith, ac roedd yn fy nghadw rhag y glaw man.
Tuesday, October 27, 2020
ustus newydd
Monday, October 26, 2020
er ei fwyn ef
Mae'r gŵr newydd yrru'r erthygl hynod o ddoniol hwnnw gan y Wenynen at y gweinidog. Gobeithio y ceith chwerthin braf ar ei ddiwrnod i ffwrdd heddiw.
Saturday, October 24, 2020
braint
Subscribe to:
Posts (Atom)



