Dydd Iau ydy'r diwrnod dw i'n mynd i'r dre i ofylu am blant bach mewn lloches i wragedd. Heddiw roedd 'na ddwsin o blant rhwng un a phump oed a phedwar ohonon ni i eu gwarchod nhw yn yr ystafell fach.
Maen nhw'n bwydo'r plant bob tro. Dw i ddim yn gwybod pam. Dydyn nhw byth yn bwyta llawer fel arfer. Mae'r rhan fwya o'r bwyd yn cael ei dyflu mewn bin sbwriel. Ac bydd y plant yn dechrau chwarae efo'r bwyd yn eu dwylo. Spageti, ffrwythau, bisgeden, cacen, creision a.... CHEETOS.
Mae'n gas gen i Cheetos. Gobeithio bod UDA ddim yn allforio'r peth felly. Mae'r lliw oren gludiog ar eu dwylo, ar eu hwynebau, ar eu dillad, ar y byrddau, ar y cadeiriau, ar y carped, ar y teganau, ar y llyfrau ac ar BOPETH.
Mi ddes i adre'n cael cinio bach a sgwrs ar Skype efo fy ffrind yn Gymraeg.
4 comments:
Cheetos...dyna rhywbeth dwi ddim yn gyfarwydd efo. Gwna yn siwr fod gennyt ddigon o 'wet wipes' efo ti!
"Cheetos...dyna rhywbeth dwi ddim yn gyfarwydd efo."
Un o fwyd jync ydy o, fel creision efo blas caws oren. Mae angen 'wet wipes' ar y plant ond does dim digon o ddarpariaeth yn yr ystafell fel arfer!
Roedd Cheetos (creision blas cawslyd) ar gael yng Nghymru, ond dwi heb eu gweld ers blynyddoedd. Doedd nhw ddim cystadleuaeth i'r Watsits
Ymddengys bod Cheetos ar gael mewn sawl gwlad :-(
Rhys, mae Watsits yn edrych yr union fel Cheetos!
Post a Comment