casglu fferins
Dw i a'r teulu ddim yn dathlu Calan Gaeaf ond mi wnes i ymuno â'r grwp o'r mamau a'u plant bach a staff y ganolfan i'r gwragedd a mynd ar daith 'trick or treat' y bore ma. Mi es i â hogan fach oedd yn gwiso'n dylwythen deg. Mae rhai swyddfeydd cyhoeddus a businesau'n barod am blant heddiw. Aethoni ni i Neuadd y Dre, yr Heddlu, y llyfrgell a banciau. Caeth y plant i gyd fagiau llawn o fferins.
4 comments:
wi'n cael yr holl beth yn ddiddorol iawn. smo pobl yn dathlu nos galan gaeaf o gwbwl yn awstralia. ac nawr bod ni'n byw yn america, sa' i'n siwr ffordd mae dyn i'w dathlu hi fel oedolyn - ond 'mod i'n leicio'r esgus dros gerfio pwmpenni!
fel ti, ry^n ni'n mynd i helpu plant ffrindiau ddathlu heno 'ma drwy febisitio'r ty^ a dosbarthu losins i ymwelwyr fal y gall y teulu fynd mas gyda'i gilydd i hel eu losins eu hunain.
falle y gwnewn ni ddiffodd y goleuadau ac eistedd yn y ty^ tywyll dan fwyta'r losins i gyd ac esgus nad oes nab gartref. (^_-)
Dw i newydd ddwad yn ôl o Wal-Mart. Weles i sgerbwd oedd yn casglu trolis yn y maes parcio, Darth Maul, gwrach ac yn y blaen.
Wedi gweld nifer o greaduriaid ffiaidd yr olwg ar Comox Ave pan oeddwn ar y ffordd adref o'm gwaith pnawn ddoe ! 'Roeddynt yn mynd o siop i siop yn casglu trîts, ac 'roedd y perchnogion hefyd wedi gwisgo i fyny! Cawsom 20 o blant draw i'r ty rhwng 6 a 8pm ....diolch fod gennym ddigon o trîts ar eu cyfer . Ond da ni 'di gwneud siwr fod 'na rai ar ôl i ni wrth gwrs ;)
Fydd 'na dan gwyllt acw ? Glywais i rai yn cael eu tanio yma .
Dim o gwbl. Dw i ddim yn meddwl bod 'na'r arfer yma.
Post a Comment