mae totoro wedi dwad
O'r diwedd! Prynon ni DVD gan Amazon, ac mae o yma. Caethon ni Noson Totoro neithiwr. Ein ffefryn Stwdio Ghibli ydy o. (Wna i a'r gwr bleidleisio dros Only Yesterday.) Mae gynnon ni fideo wnaeth fy mam recordio oddi ar y teledu flynyddoedd yn ôl. Mae o'n cynnwys hysbysebion dan ni'n hen gyfarwydd â nhw bellach. Mae'r plant wedi ei wylio fo drosodd a throsodd fel y bod y cyflwr braidd yn wael erbyn hyn. Roedd yn wych cael gwylio DVD ag ansawdd uwch er bod rhaid i ni drechu "y teimlad o ddisgwyl hysbyseb mewn lle penodol a chael sioc pan na ddoiff." > ^ _ ^ <
5 comments:
>O__O<
pa wahaniaethau eraill y gwnaethoch chi sylwi arnyn nhw? pethau annisgwyl yn mynd ymlaen wrth ochrau'r sgrîn lydan falle?
rwy'n moyn cynnal noson dotoro hefyd! er 'mod i'n dwlu ar only yesterday (neu fel mae 'mhriod i'n ei galw hi wasn't born yesterday...), 'sdim byd sy'n well 'da fi na totoro!
>^O^<
Wnes i ddim sylwi dim wrth ochrau'r sgrîn. Beth sy na?
Heddiw wnaeth y plant gwylio'r DVD yn Saesneg a chael hwyl cymharu'r ddwy iaith. Mae Disney wedi newid mewian 'Nekobasu.'
Rhaid i ni i gyd ddod yn gyfarwydd â pheidio gweld yr hysbysebion. Dan ni'n dal i gael sioc bob tro. ˆˆ
Dw'in hoffi Totoro!
fi hefyd!
o ran pethau wrth ochrau'r sgrîn, rwy'n meddwl am yr olygfa lle mae satsuki a mei 'di dod ag ymbarèl kanta yn ôl, ac ar ôl iddyn nhw adael mae mam-gu yn gofyn pwy oedd wrth y drws. reit wrth ochr dde y sgrîn mae hi'n ymddangos. mae 'da ni fersiwn arall o'r ffilm lle nad oes modd ei gweld hi o gwbwl am fod ochrau'r llun 'di cael eu torri bant...
rwy am weld yr hysbysebion nawr!
Mi daeth Erika yma'n slei bach neithiwr!
Asuka, dan ni'n medru gweld Nain yn y fideo hefyd.
Post a Comment