![](https://blogger.googleusercontent.com/img/b/R29vZ2xl/AVvXsEiCjDHvLfXOCP0SxcIOr3voGjRflxE1xbILx7ZQPWBkGcpwp4m9XsrIj5dZIZo9AqX9oLIgMC19HeV6x-uDUqMmJ4EI_2ADFcJ463FxMAjRbLQjmrdGcWKQq5AMBKqggC5dPKhAv33OrIg/s200/bwyd.jpg)
Dyma ginio mawr wedi drosodd a dw i wedi ymlâdd. Roedd y twrci'n flasus, diolch i'r bag popty. Aeth popeth yn iawn heblaw am y pasteiod pwmpen a oedd ar fin llosgi. (Anghofies i droi tymheredd y popty i lawr ar ôl y 15 munud cyntaf.) Ac eto cafodd pawb amser da. Roedd yna 13 wrth y bwrdd. Baswn i wrth fy modd yn ymlacio mewn 'onsen' - tarddell boeth yn Japan rwan!
4 comments:
Faset ti wir haeddu ymlacio ar ôl i'r holl ymdrechion yna!!
Diolch! Dw i'n teimlo'n dda'r bore ma.
Yn falch fod pawb wedi mwynhau eu cinio diolchgarwch. Fel y dywedodd Neil , 'rwyt yn haeddu ysbaid rwan ar ôl dy holl waith .
Diolch i ti hefyd, Linda.
Post a Comment