Thursday, April 1, 2010

arwr

Dw i erioed wedi dysgu amdano fo yn yr ysgol. Doedd sôn amdano fo yng ngwerslyfrau hanes Japan, ar y pryd o leiaf. Ac eto mae yna barc a stryd wedi'u henwi ar ei ôl o yn Israel a Lithuania ynghyd cerflun ohono fo yn Unol Daleithiau.

Chiune Sugihara (Tsi-wne Swgihara) ydy'r dyn. Rhaid cyfaddef mai dim ond ddyddiau'n ôl y darllenais i amdano. Wrth gwrs bod yna nifer mawr o bobl ddewr yn y byd ym mhob cyfnod. Yr hyn sy'n fy nharo i'n arw ydy fy mod i heb wybod am y dyn felly ymysg fy mhobl i fy hun hyd hyn, ac yntau mor ddewr, tosturiol a ffyddlon yn achub cynifer o fywydau. Clywais i fod pawb yn Lithuania'n gwybod pwy oedd o.

O leiaf mae Llywodraeth Japan a rhai o'r bobl wedi ei anrhydeddu'n ddiweddar o'r diwedd. Mae yna lyfrau a fideos amdano fo ar gael. Bwriadu dilyn y pwnc dw i.

No comments: