Tuesday, April 13, 2010

poendod


Does gen i ddim byd yn eu herbyn cyhyd bod nhw'n cadw at eu cynefin. Ond unwaith maen nhw'n tresmasu ar ein un ni, rhaid cael gwared arnyn nhw. Wrth i'r tywydd gynhesu, mae eu nifer ar ein waliau a lloriau'n cynyddu'n sylweddol. Byddwn i am ddefnyddio rhywbeth rhad ac ecolegol os ydy'n bosibl. A dyma brynu sialciau lliwgar a gofyn i'r plant luniadu o gwmpas y tŷ. Wrth gwrs bod nhw'n fwy na hapus i ufudd i mi. Gobeithio bod gan y morgrug gas ar sialciau fel dylen nhw fod.

2 comments:

Corndolly said...

Ydy y sialc yn gweithio?

Emma Reese said...

Dw i'n meddwl fod o. Dw i ddim yn gweld morgrug yn y tŷ ers hynny.