Friday, April 30, 2010

filmed in llanberis, wales, england

Dw i'n hoff iawn o erthyglau gan Lowri Haf Cooke ar wefan BBC Cymru. Ei rhain hi ydy'r unig adolygiadau ffilmiau fyddwn i'n eu darllen o bryd i'w gilydd. Er mod i ddim yn ffan o Super Furry Animals (dw i heb wrando arnyn nhw a dweud y gwir,) dygodd ei hadolygiad ar gyfer Seperado! awydd ynof fi i'w gweld hi os ca' i gyfle.

Clywais i hi'n trafod "Clash of the Titans" ar raglen Nia ddydd Iau. Yr unig elfen o atyniad y ffilm i mi ydy'r ffaith bod hi wedi cael ei ffilmio'n rhannol yn chwarel Llanberis. Collais i fy chwilfrydedd yn llwyr fodd bynnag ar ôl clywed hi'n sylwi ar gredyd y ffilm: Filmed in Llanberis, Wales, England.

4 comments:

neil wyn said...

Clywais y cyfweliad a sioe Nia hefyd, a'r cyfeiriad at gredyd gwarthus i Lanberis druan, yn Wales, England!! ffilm Clash of the Titans. Ni fydda i'n gwibio i'r sinema i'w weld ar ól clywed yr adolygiadau sal chwaith!

Ond mae Seperado ar y llaw arall yn swnio fel prosiect gwahanol a diddorol. Fedra i ddim dweud mod i'n ffan enfawr o'r SFA's ond maen nhw wedi bod wrthi'n ar yr ochr mwyaf creadigol o'r byd 'pop' ers flynyddoedd maith, yn creu synnau gwreiddiol, yn ogystal a dal ati i wneud stwff yn y Gymraeg hefyd. Felly pob parch iddynt!

Linda said...

Dwi'n meddwl eu bod nhw wrthi'n ffilmio 'Clash of the Titans' tua'r un adeg a phan oeddet ti'n aros yn Llanberis y llynedd. Fel Neil , fydda inna ddim yn brysio i'w weld chwaith. Mi fydd yn rhaid i'r NHL Play Offs orffen yn gyntaf cyn i mi ddychwelyd i wylio ffilmiau o unrhyw fath ;)

Rhys Wynne said...

Bues i i weld Seperado

Mae'n ffilm reit ysgafn a hawdd i'w gwylio. Efallai caiff ei ddangos ar S4C yn y dyfodol.

Dw i'n ffan mawr o SFA, efallai byddet yn hoffi ambell i gan oddi ar eu halbwm Cymraeg, Mwng, neu oddi ar albwn solo Gruff Rhys, Yr Atal Genhedlaeth

Emma Reese said...

Diolch i chi i gyd am eich sylwadau. O ran caneuon SFA a Gruff Rhys, mae'n dda gen i weld bod y geiriau ar gael yn rhwydd. Maen nhw'n help mawr i ddysgwyr.