Thursday, April 29, 2010

ysbrydoliaeth

Sgrifennodd fy merch yn Japan yn dweud bod hi wedi ymweld â'r ysgol Saesneg cyn dechrau gweithio yno'n swyddogol. Dosbarth ydy'r lle'n hytrach nag ysgol a dweud y gwir. Dysgodd hi wers i ddod i nabod ei dosbarth.

Mae yna ddynes 78 oed sy'n mynychu'r dosbarth ddwywaith yr wythnos. Mae hi eisiau medru Saesneg yn ddigon da iddi gael ymweld ag Efrog Newydd rywdro. Mae hi'n mynd i ganolfan ffitrwydd ddwywaith yr wythnos, dringo mynyddoedd uchel sawl tro bob blwyddyn. Mae hi'n mynd â'i llestri te hyd yn oed fel y medrith hi gael paned iawn ar y copaon.

Roeddwn i'n rhyw feddwl mod i'n mynd yn rhy hen i wneud hwn a'r llall yn ddiweddar. Ces i fy ysbrydoli gynni hi.

No comments: