Saturday, April 24, 2010

red fern festival




Dyma'r bedwerydd tro i'r ŵyl gael ei chynnal yn y dref hon. A dweud y gwir, doeddwn i ddim yn gwybod amdani tan yn ddiweddar. Dyma fy nghyfle i gasglu pwnc ar gyfer fy mlog. Roedd yna fwy o bobl na'r disgwyl a hithau'n lawog drwy'r bore. Ces i a dau o'r plant flas ar 'chilis' a chig barbeciw yn ogystal â 'corndog' enfawr wrth y stondinau.

Cystadleuaeth cŵn hela oedd y prif atyniad wrth reswm. (Gweler y ddolen.) Roedd dwsinau ohonyn nhw'n ymgasglu mewn cae cyfagos. Roedd rhai ohonyn nhw wrth sodlau bechgyn ifanc fel prif gymeriad y nofel. Doedd gen i ddim syniad beth yn union oedden nhw ei wneud gyda racŵn mewn cawell fyny coedyn. Dyma ofyn i ddyn oedd yn sefyllian. Y ci sy'n rhoi nifer mwyaf o gyfarthiad at y racŵn i rybuddio ei feistr fydd yn ennill.

Roedd glaw'r bore'n fendith a dweud y gwir. Golchodd o'r paill yn yr awyr yn lan i mi gael crwydro'r cae.

No comments: