Saturday, August 14, 2010

'fish fry' arall


Ces i a'r teulu ynghyd ag athrawon Adran Optometreg a'u teuluoedd bryd o fwyd gwych yn nhŷ ffrindiau heno. Mae o'n hoff iawn o bysgota a bwydo ei ffrindau ei ddalfa. Daeth pawb arall â salad a phwdin. Mae'r cwpl yn byw yn ymyl Afon Illinois ac mae gynnyn nhw olygfa hyfryd o'u tŷ nhw. Mwynheuon ni eistedd ar y dec am sbel er gwaetha'r gwres llethol.

Yr unig siom ges i oedd fy mod i'n methu sgwrsio gyda Patrice (hi astudiodd yn yr Alban) bron achos bod hi a'i gŵr wedi dod yn hwyr. Roedd rhaid i ni adael wedi i mi gael ond gair sydyn gyda hi. Mae'n gysur i mi fodd bynnag bod yna rywun yn y dref sy'n gwybod lle mae Cymru!

2 comments:

neil wyn said...

Mae'n swnio fel noson dymunol iawn!

Emma Reese said...

Oedd, a chawson ni rai o'r pysgod (wedi'u ffrio) yn anrheg hyd yn oed!