Friday, January 13, 2017

sgrifennu at bapur newydd

Rhyddfrydwyr ydy'r rhan fwyaf o'r prif gyfryngau yn Japan fel yn nifer mawr o'r gwledydd eraill. Y broblem ydy bod y rhan fwyaf o'r bobl yno'n credu popeth maen nhw'n clywed mewn newyddion. Ac felly mae gan y cyfryngau gyfrifoldeb mawr. Dw i'n bwrw golwg ar bapur newydd o Japan ar y we bob bore, a sylwi bod yr erthyglau am America'n dod yn syth o brif gyfryngau America. (Dim ond cyfieithu'n Japaneg maen nhw.) Darllenais erthygl arbennig o hyll am Donald Trump ddoe, a dyma benderfynu sgrifennu atyn nhw. Roedd braidd yn anodd gan fy mod i heb ddefnyddio Japaneg ffurfiol dros flynyddoedd, ond sgrifennu a wnes i. Dw i ddim yn disgwyl clywed ganddyn nhw, ond dw i'n fodlon fy mod i wedi gwneud y peth iawn.

No comments: