Monday, January 2, 2017

pob llwyth

Mae gan Joshua Aaron gân newydd, sef Every Tribe. Mae o'n canu efo RiverWind, pen llwyth Indiaid America sydd gan waed Iddewig. Brwdfrydig am Iesu mae'r ddau, a chrean nhw gân hynod o wych; mae alaw Iddewig yn asio'n rhyfeddol o dda efo'r drymiau a bloedd Indiaid. Cân am ail ddyfodiad Iesu ydy hon. Clywais mai digofaint Duw tuag at y drygioni ydy'r floedd. Fy ffefryn newydd.

No comments: