Wednesday, January 18, 2017

cael digon

Ces i ddigon. Unwaith eto argraffodd Yomiuri y bore 'ma erthygl a gafwyd yn uniongyrchol gan y prif gyfryngau America ynglŷn â'r arolwg diweddaraf am boblogaeth Mr. Trump. Wrth gwrs bod o wedi cael ei drin er mwyn argyhoeddi'r bobl ansicr pa mor annheilwng ydy Mr. Trump ar gyfer y swydd. Doeddwn i ddim yn disgwyl i Yomiuri newid eu polisi oherwydd fy llythyr, ond ces i ddigon. Ddarllenaf byth mohono fe. Mae yna un gwell, sef Sankei. Er bod nhw ddim yn berffaith, maen nhw'n ymddangos yn well na Yomiuri. Ces i fy synnu'n darllen rhai llythyr call gan y darllenwyr.

No comments: