Thursday, January 5, 2017

te kosher

Dw i'n sipian paned o dde go dda (a kosher hyd yn oed) wrth sgrifennu'r pwt hwn. Cafodd Cwmni Te Wissotzky ei sefydlu yn Moscow yn 1849. Bellach mae yna nifer o ddosbarthwyr drwy'r byd. Yn Israel cafodd y paced a brynais ei gynhyrchu. Mae'r ffatri yng Ngalilea tra bod y pencadlys yn Tel Aviv. Anfonais sawl bag te at fy nwy ferch i rannu'r fendith efo nhw.

No comments: