Thursday, January 19, 2017

bikers for trump

Mae miloedd a channoedd o filoedd o bobl yn cyrraedd Washington D.C. am yr Inauguration - rhai ar gyfer dathlu a chefnogi'r arlywydd newydd, a'r lleill ar gyfer protestio yn ei erbyn. Ac mae rhai'n bygwth trais er mwyn amharu ar y diwrnod mawr. Ymhlith y cefnogwyr, mae yna Bikers for Trump, sef grŵp o feicwyr modur dros Mr. Trump. Cyn milwyr a phlismyn ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw, ac mae ganddyn nhw egwyddor nobl a heddychlon. Cyhoeddodd Chris Cox, arweinydd y feiciwyr, ddyddiau'n ôl na fyddai fo'n disgwyl problemau ond fydden nhw'n barod i ffurfio "wal o gig" os bydd angen er mwyn amddiffyn yr arlywydd newydd a'i gefnogwyr. Ewch amdani!

No comments: