Thursday, March 7, 2019

blog newydd

Mae fy merch yn Japan newydd gychwyn blog er mwyn rhannu ei phrofiad fel gweinyddes mewn siop te. Sefydlwyd yn 1914, mae gan Morinoen hanes hir yn Tokyo. Mae hi'n wyth mlynedd hŷn na fy mam. A dweud y gwir, roedd fy mam yn byw yn yr un ardal pan oedd hi'n ifanc, ac yn meddwl bod hi wedi mynychi'r siop i brynu te. Mae fy merch wrthi'n dysgu'r sgil a'r eirfa Japaneg benodol fel gweinyddes. Er ei bod hi'n gwneud camgymeriadau'n eithaf aml, mae pawb yn glên, ac mae hi'n dysgu'n gyflym.

No comments: