Friday, March 15, 2019

te wedi'i rostio

Wedi clywed cymaint am de wedi'i rostio gan fy merch yn Japan, roedd syched arna i amdano fo. Archebais rai ar lein, ac mae o newydd gyrraedd. Dyma hwylio te ar yr unwaith. Mae o'n hynod o flasus, llawer mwy na the gwyrdd yn fy marn i. Mae yna chwech o becynnau yn y blwch. Byddan nhw'n para am sbel.

Shabbat Shalom

No comments: