Thursday, March 21, 2019

er cof am kurt

Dw i a'r gŵr newydd glywed buodd Kurt, ein hoff handyman ni, farw'n sydyn dri diwrnod yn ôl o ganser pancreatig. 55 oed oedd. Roedd o'n fedrus dros ben yn ei faes, ac wedi gweithio droston ni dros ddegawd yn cadw ein tŷ ni mewn siâp. Dim ond mis yn ôl gosododd o deils yn yr ystafell ymolchi, ac roedd o'n bwriadu adeiladu dec cefn newydd i ni yn y gwanwyn. Roedd ganddo olwg a steil siarad garw braidd, ond yn bob amser meddwl am fudd ei gwsmeriaid. Dwedodd o'r blaen fod o'n credu yn Iesu Grist. Mae o'n gorffwys mewn heddwch yr Arglwydd bellach. 

No comments: