Monday, April 11, 2022
ailgylchu glo
Saturday, April 9, 2022
katfish kitchen
Tro Katfish Kitchen oedd hi ddoe. Er bod ni wedi cyrraedd cyn 5 o'r gloch, roedd nifer o gwsmeriaid yno'n barod. Ac erbyn i'n bwyd ni ddod, roedd y lle'n llawn dop. Mae'n amlwg mai un o dai bwyta mwyaf poblogaidd y dref ydy o, gan yr Heddlu hefyd. Dewisais i fy ffefryn (cyw Iâr wedi'i grilio ) tra bod y gŵr yn cael pysgod wedi'i grilio.
Friday, April 8, 2022
pregethau eidaleg
Wednesday, April 6, 2022
y canlyniad
Tuesday, April 5, 2022
etholiad lleol 2
Fel arfer na ceith etholiadau lleol fawr o sylw gan ran fwyaf o drigolion. 16 pleidlais a benderfynodd y canlyniad yn y gorffennol er bod 16,000 o bobl yn byw yn y dref yma. Wrth i'r byd fynd mwy gwallgof byth bob dydd, mae'n hynod o bwysig i'r bobl gyda synnwyr cyffredin geisio cymryd rhan yn y wleidyddiaeth cymaint â bo modd. Mae'r gŵr yn weithgar dros ben yn y maes hwnnw ynghyd â rhai eraill. Dyma fi'n gwneud peth bach - creu arwydd i atgoffa'r cymdogion i bleidleisio heddiw.
Monday, April 4, 2022
etholiad lleol
Etholiad bwrdd yr ysgol mae hi yfory. Mae dau ymgeisydd yn fy ardal i; cyn athrawes ardderchog yn yr ysgol uwchradd ydy un ohonyn nhw. Cafodd dri o fy mhlant eu hyddysg ganddi. Wedi ymddeol o'i gyrfa hir, mae hi'n frwdfrydig gweithio ar fwrdd yr ysgol rŵan. Mae'r gŵr wedi bod wrthi'n ei chefnogi fel "rheolwr ymgyrch" answyddogol ers misoedd, yn siarad gyda'i ffrindiau drosti hi, a chanfasio o ddrws i ddrws yn y gymdogaeth. Fel ymgyrch olaf, aeth i ddosbarthu nodiadau atgoffa'r bore 'ma yn y glaw.
Saturday, April 2, 2022
ymdopi'r chwyddiant
Ces i a'r gŵr swper yn Napoli's neithiwr. Dewisais ravioli sbigoglys; cig llo parmigiana iddo fo. Roedd cyfaint ei spaghetti'n fach iawn, llawer llai nag arfer. Efallai mai dyna sut mae'r perchennog yn ceisio ymdopi'r chwyddiant. Roedd yn flasus fodd bynnag yn ôl y gŵr.
Subscribe to:
Posts (Atom)