Monday, November 30, 2020

calon kintsugi

Sgrifennodd fy merch yn Japan erthygl o'r blaen ar kintsugi, sef celfyddyd atgyweirio. Dyma'r dilyniant - Calon Kintsugi. Cafodd hi ei geni yn America a symud i Japan ond sawl blwyddyn ôl; felly ces i fy nharo'n gweld ei bod hi'n deall calon a ffyrdd Japan mor dda. 

Sunday, November 29, 2020

gyda fy merch hynaf

Daeth fy merch hynaf a'i gŵr i dreulio'r penwythnos gyda ni am y tro cyntaf ers talwm. Roedd yn braf cael sgwrsio â hi'n uniongyrchol. Cawson ni bitsa "chwedlonol" Sam and Ella i swper neithiwr, sef pitsa gyda phicls dil a chyw iâr.

Friday, November 27, 2020

heb ddechrau ymladd eto


Mae'r Democratiaid a phrif gyfryngau America eisiau i'r Arlywydd Trump a'i gefnogwyr roi'r gorau iddi (yn gyflym cyn i'r twyll yn yr etholiad gael ei brofi.) Pe bai'r canlyniad yn onest a chyfreithlon, wrth gwrs y bydden ni'n ei dderbyn ar unwaith. OND - dydy o ddim. Mae mwy a mwy o dwyll yn cael ei ddadorchuddio bob dydd wrth i'r ymchwiliad fwrw ymlaen. Na fyddwn ni byth yn ildio i dwyll a bygythiadau. 

"Dw i heb ddechrau ymladd eto." - John Paul Jones

Thursday, November 26, 2020

diwrnod diolchgarwch

Diolch i Dduw, fy Arglwydd, fy Achubwr a fy Nhad. 
Sanct wyt ti; da wyt ti; cyfiawn wyt ti; trugarog wyt ti; ffyddlon wyt ti. 
Ti sydd yn rheoli'r byd. 

"Y mae llygaid yr Arglwydd ar y cyfiawn,
a'i glustiau'n agored i'w deisyfiad,
ond y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni."
1 Pedr 3:12

"Byddan nhw'n ymosod arnoch chi ond ni fyddan nhw'n eich goresgyn; oherwydd yr wyf gyda chwi i'ch achub," meddai'r Arglwydd.

Jeremeia 1:19

Wednesday, November 25, 2020

ofnwch ef

Peidiwch â dweud ‘Cynllwyn!’
am bob peth a elwir yn gynllwyn gan y bobl hyn;
a pheidiwch ag ofni'r hyn y maent hwy yn ei ofni,
nac arswydo rhagddo.
Ond ystyriwch yn sanctaidd ARGLWYDD y Lluoedd;
ofnwch ef, ac arswydwch rhagddo ef.
Eseia 8:12, 13

Tuesday, November 24, 2020

cyngor gor onest


Cafodd fy merch hynaf brofiad brawychus a doniol ar yr un pryd ar stryd fawr Oklahoma City. Tra oedd hi'n cerdded, gweiddodd dyn dieithr arni, "sut medra i wneud merched sengl fy hoffi?" Atebodd hi heb feddwl, "paid ag ymddwyn yn wallgof." Aeth o'n gynddeiriog wrth glywed hyn; rhedodd hi i ffwrdd am ei bywyd wrth ofni y byddai fo'n ei thrywanu! Cafodd hi loches mewn siop yn ffodus. Gan fod y dyn yn dal i loetran y tu allan am oriau, cerddodd y perchennog gyda hi i'w char a oedd yn parcio'n bell. "Dylwn i ddim fod wedi rhoi cyngor mor onest," meddai.

Monday, November 23, 2020

rheol hurt

Daeth fy mab ifancaf adref am wythnos o wyliau. Mae'n braf ei weld o am y tro cyntaf ers mis Awst. Peth rhyfedd ydy iddo orfod gwisgo mwgwd hyd yn oed ymysg y teulu oni bai medrith gadw pellter cymdeithasol. Hollol hurt, ond rheol y brifysgol ydy hwn, ac felly rhaid ei ddilyn am y tro. Edrych ymlaen at fuddugoliaeth gyfreithlon yr Arlywydd Trump.