Thursday, May 8, 2014

yr ail fideo

Dw i'n teimlo'n llawer gwell heddiw. (Dw i'n dal i oeri fy mhen efo rhew.) Gan ei bod hi'n fis ers i mi wneud fideo ohona' i'n siarad Eidaleg, mi wnes i un arall sydyn gynnau bach. Wedi gweld y ddau (efo poen) dw i braidd yn siomedig peidio gweld gwelliant sylweddol. Wrth gwrs na fydd hyn yn fy stopio i rhag dysgu Eidaleg. Efallai dylwn i wneud fideo bob tri mis yn hytrach na bob mis.

Wednesday, May 7, 2014

damwain

Mae'r iris yn dal i flodeuo. Dw i mor hapus i weld blodau newydd bob bore. Dyma wneud yn siŵr i'w dyfrio nhw bob dydd. Yn anffodus ces i ddamwain yn yr ardd y bore 'ma wrth i mi wneud y gwaith. Mi wnes i faglu dros y bibell a tharo fy mhen erbyn y wal. Clywais sŵn ofnadwy fel pe bai'r pen wedi cael ei dorri! Ond diolch i Dduw, dw i'n iawn. Mae rhew ar fy mhen drwy'r dydd.

Tuesday, May 6, 2014

iris!

Maen nhw newydd flodeuo! Roeddwn i'n sbïo drwy ffenestr y gegin ar y gwely iris am ddyddiau. Pan es i at y gegin y bore 'ma, y peth cyntaf a wnes i oedd gweld y gwely iris, a dyma nhw - blodau cyntaf hardd yn disgleirio yn yr heulwen foreol. Mae yna lawer mwy o flagur eleni. (Dw i'n credu'n siŵr mai canlyniad fy ngofal drostyn nhw ydy hyn!) 

Monday, May 5, 2014

peli cig

Coginiais i beli cig Eidalaidd yn ôl rysáit Nadia neithiwr. Roedden nhw'n anhygoel o flasus ac roedd y teulu'n hapus iawn. (Do, mi wnes i ferwino caws Parmesan fy hun.) Ffrio a wnes i ar badell ffrio yn hytrach na'u rhostio nhw yn y popty oherwydd bod hi'n boeth ddoe a doeddwn i ddim eisiau codi tymheredd y gegin. (Mae'n ddrwg gen i, Nadia!) Merch ddoniol ydy hi. Dw i'n cael hwyl gwrando arni hi er bod hi'n siarad Saesneg yn unig yn y fideos.

Saturday, May 3, 2014

yn lyon

Cyrhaeddodd fy merch yn ddiogel. Dwedodd fod y bobl yn Lyon yn anhygoel o glên. Pryd bynnag agorodd hi fap, daeth rhywun i'w helpu. Mae hi'n synnu'n clywed Ffrangeg ym mhob man ac yn gweld arwyddion yn Ffrangeg (er mai naturiol ydy hynny!)

Friday, May 2, 2014

i ffrainc

Mae fy ail ferch newydd adael y dref fach yn yr Eidal wedi treulio dau fis a hanner ymysg cynifer o bobl glên. Mae hi'n teithio ar y bws ar hyn o bryd a chyrraedd rhywle yn Ne Ffrainc am 5:30 yn y bore. Bydd hi'n cyfarfod efo ffrindiau o Oklahoma sydd yn digwydd bod ar eu gwyliau yno rŵan a threulio dyddiau efo'i gilydd. Am antur!

Thursday, May 1, 2014

termae romae 2

Mae'r ffilm newydd sbon hon newydd gael ei rhyddhau yn Japan. Y tro 'ma, dylai Lucius, y prif gymeriad o Rufain hynafol, adeiladu bath enfawr tu ôl Colosseo ar gyfer y gladiatoriaid. Cafodd y prosiect ffilm gymorth gan gymdeithas Sumo hyd yn oed ac roedd rhai chwaraewyr Sumo'n actio yn y ffilm gan gynnwys Koto-oushu (Telyn Ewrop) sydd wedi ymddeol yn ddiweddar. Mae'n ymddangos bod "Termae" yn mynd o nerth i nerth. (Trailer)