Tuesday, April 30, 2013
golwg enwog
Roeddwn i'n darganfod y cerdyn post hwn ymysg y rhai a roddwyd gan fy mam flynyddoedd yn ôl (Cafodd hi'r rhain gan ffrind) - golwg enwog o Eglwys San Giorgio Maggiore yn Fenis efo gondola neu ddwy yn y blaen. Paentiwyd efo pensil a dyfrlliw ysgafn. Nodwyd bod yr artist wedi cael amser braf yn Ewrop efo 20 o ffrindiau yn 1995. Mae'r cerdyn hyfryd ar y wal wrth ochr y ddesg bellach.
Monday, April 29, 2013
wy aur
Roeddwn i'n bwriadu darllen y nofel newydd hwn gan Donna Leon ond yn gobeithio cael benthyg copi gan y llyfrgell. Wedi gwirio gwefan y llyfrgell yn aml ers i'r nofel gael ei argraffu ddiwedd mis Mawrth, dw i newydd ffeindio dau gopi yn rhwydwaith llyfrgelloedd gogledd-ddwyrain Oklahoma! Dyma ofyn am un yn syth. Dw i ddim yn gwybod pryd doith o; mae'n dibynnu ar le mae'r llyfrgell sydd gan y copi.
Sunday, April 28, 2013
stori fer
Mae fy nhrydedd ferch yn hoff iawn o sgrifennu storiâu; mae hi eisiau bod yn awdures o ddifrif. (Cafodd air o gyngor gan y diweddar T.Llew!) Wedi cychwyn yn y brifysgol y llynedd, mae hi'n mynd i ddosbarth sgrifennu ac wrthi'n gwneud ei gwaith cartref yn gyson. Mewn rhyw awr rhaid gorffen stori fer (30 dudalen) mae hi'n gweithio arni ddydd a nos ers dyddiau. Gawn ni weld sut bydd y dywysoges yn achub ei theyrnas.
Saturday, April 27, 2013
y gêm olaf
Chwaraewyd gêm olaf y tymor. Collon ni 12 - 0 ond roedd yr hogiau'n ceisio'n galed heb roi'r gorau iddi. Roedden nhw'n gwneud yn dda yn ystyried bod nhw'n llawer ifancach na phawb arall. Roedd y cae'n wlyb a mwdlyd dros ben wedi tywydd mawr; hunllef i'r mamau i gyd!
Friday, April 26, 2013
rysait newydd (ac hawdd)
Dw i wedi blino ar fy nghoginio. Penderfynais chwilio am ryseitiau newydd ar y we. Wrth gwrs bod well iddyn nhw hawdd neu na wna' i byth eu defnyddio. Mae'n anhygoel gweld cynifer ohonyn nhw dim ond teipio'r geiriau. Dewisais un neu ddau ac maen nhw wedi profi'n llwyddiannus. Dyma un - chicken & biscuits. Roedd yn flasus, mwy blasus efallai achos fy mod i'n defnyddio cyw iâr ffres wedi'i ffrio yn lle tun ohono fo.
Thursday, April 25, 2013
hysbysfwrdd
Sgen i ddim syniad beth ydy "billboard" yn Gymraeg, felly mi alwa' i'n hysbysfwrdd am y tro. Mae fy merch hynaf wedi bod yn gwirfoddoli dros Heddlu Dinas Norman yn frwd ers misoedd yn cynllunio a dylunio amrywiaeth o bethau. Un diweddaraf ydy hwn - hysbysfwrdd i recriwtio heddweision. Mae o newydd gael ei godi yn y ddinas (mewn lle braidd yn anhysbys yn anffodus oherwydd diffyg cyllid mae'n amlwg.) Mae o yno fodd bynnag ac mae fy merch wrth ei bodd.
Wednesday, April 24, 2013
iard heb laswellt
Mae fy merch hynaf a'i gŵr wrthi'n creu iard heb laswellt. Gosodir graean neu frics yn ei le. Mae'n ymddangos bod hynny'n boblogaidd yn ddiweddar; mae'n debyg i iard Japaneaidd. Syniad da! Byddwn i eisiau iard dwt heb angen torri lawnt arni hi. Mae'n hynod o drafferthus torri'r lawnt bob wythnos yn ystod yr haf er dim fi sydd yn gwneud y gwaith ond y mab ifancaf druan. Dw i'n siŵr bydd o'n cytuno â fi!
Subscribe to:
Posts (Atom)



