Gwrandawais efo'r gŵr ar araith yr Arlywydd Trump neithiwr yn eiddgar. Roedd yn barti enfawr hapus! Cyflawnwyd cynifer o bethau pwysig dan ei arweinyddiaeth ar gyfer bobl America mewn blwyddyn. Mae bywydau'r bobl wedi gwella, ac mae ysbryd cadarnhaol a gobeithiol yn eu mysg. Ac felly roedd yn anghredadwy gweld y rhan fwyaf o'r Democratiaid yn edrych yn ddig yn ystod y noson lawen. Edrycha' i ymlaen at weld beth fydd yr Arlywydd yn ei gyflawni eleni.Wednesday, January 31, 2018
noson lawen
Gwrandawais efo'r gŵr ar araith yr Arlywydd Trump neithiwr yn eiddgar. Roedd yn barti enfawr hapus! Cyflawnwyd cynifer o bethau pwysig dan ei arweinyddiaeth ar gyfer bobl America mewn blwyddyn. Mae bywydau'r bobl wedi gwella, ac mae ysbryd cadarnhaol a gobeithiol yn eu mysg. Ac felly roedd yn anghredadwy gweld y rhan fwyaf o'r Democratiaid yn edrych yn ddig yn ystod y noson lawen. Edrycha' i ymlaen at weld beth fydd yr Arlywydd yn ei gyflawni eleni.Tuesday, January 30, 2018
chef john
Dw i ddim yn gweld fideo coginio yn Saesneg yn aml oherwydd fy mod i eisiau dysgu ieithoedd eraill ac ennill gwybodaeth ar yr un pryd. Des i ar draws fideos Chef John, fodd bynnag a dw i wrth fy modd efo fo! I gychwyn, mae ganddo lais anhygoel o braf; mae o'n ddoniol heb fod yn gas; mae o'n esbonio popeth mewn modd hynod o glir heb wastraffi amser yn adrodd hanes personol diflas fel rhai eraill. Da iawn ydy ei ryseitiau beth bynnag.
Monday, January 29, 2018
sganiwr
Mae'r gŵr newydd brynu sganiwr sydd yn medru sganio sleidiau, lluniau a negatifau. Mae o'n gweithio’n hynod o dda a throi'n ein hen luniau gwerthfawr ni sydd yn prysur ddirywio i ffurf electronig. Dyma un o'r lluniau, sef llun ohonof i yn gwisgo kimono ffansi efo'r teulu ar achlysur Shichigosan, yr ŵyl Japaneaid ar gyfer y plant sydd yn saith, pump a thair blwydd oed.
Saturday, January 27, 2018
cofio
Diwrnod Cofio'r HolocostDywedir "byth eto," ond mae'n ymddangos nad ydy'r byd wedi dysgu gwersi; mae gwrth-semitiaeth ar y cynnydd eto, mewn ffurf uniongyrchol neu gael ei guddio fel gwrth-Israel. Rhaid cofio beth ddwedodd Duw, "Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear."
Friday, January 26, 2018
salmau 121
Roedd yn edrych yn anobeithiol pan ddechreuais ddysgu Salmau 121 (mewn ffurf cân) yn Hebraeg ar gof wythnosau'n ôl. Mae'r geiriau'n hynod o debyg i'w gilydd fel roeddwn i'n cael fy nrysu'n ofnadwy. Ces i fy nhemtio i feddwl byddai'n amhosib ei ddysgu. Daliais ati, fodd bynnag wrth anwybyddu'r llais bach negyddol. Dw i wedi llwyddo o'r diwedd. Hwrê!
Thursday, January 25, 2018
yr ail gwis
Wednesday, January 24, 2018
coffi da
Subscribe to:
Posts (Atom)