Mae yna arddwr arbennig o dalentog yn y gymdogaeth. Mae ei llysiau hi'n tyfu'n fawr a tal. Eleni llwyddodd hi i fagu pwmpen anhygoel o enfawr, ac mae o'n hongian uwchben y ddaear hyd yn oed!
Mae gen i drefn pan fydda i'n darllen fy hoff wefannau yn y bore. Wrth gychwyn gydag e-bost, bydda i'n gwirio FB fy nheulu; FB Jerwsalem Jane; newyddion NHK (newyddion cyhoeddus Japan); Epoch Times. Wedi cael cip ar y newyddion dibynadwy diweddaraf, bydda i'n gorffen y sesiwn gyda Babylon Bee. Gwrthwenwyn ydy'r Wenynen ar ôl darllen newyddion drwg. Bydd yn gwneud hynod o les i chi chwerthin yn braf bob dydd.
Gan ein bod ni i gyd yn sâl, arhoson ni gartref ac ymuno â'n heglwys ni ar lein. Roedd y tro cyntaf i mi wneud hyn. Gweithiodd bopeth yn dda. Roedd yn braf cael cip ar yr aelodau eraill hefyd.
Mae fy nhair merch yn mynychu Eglwys Lifehouse yn Tokyo sydd yn ceisio cyrraedd pobl ifanc yn enwedig, drwy oedfaon a rhaglenni anghonfensiynol. Mae ei phregethau yn ddwyieithog, ac mae yna dîm sydd yn gosod is-deitlau. Un o fy merched yn cymryd rhan, a dyma'r bregeth (hanner cyntaf a wnaeth.) Dwedodd ei bod hi'n medru dysgu Gair Duw yn dda drwy wrando ar yr un bregeth sawl tro a meddwl yn ddwfn.
Ces i fy nrysu pan es i at wefan Epoch Times y bore 'ma, a gweld y pennawd hwnnw. Roeddwn i'n meddwl mai'r Wenynen a ysgrifennodd. Dydy'r erthygl yma ddim yn llawer gwahanol i hyn wedi'r cwbl!
Dyma fodd i wneud te corn silk, erthygl newydd gan fy merch. Doeddwn i erioed clywed bod ganddo lawer o fanteision maethol ac iechyd. Dwedodd fy mam iddi arfer gwneud doliau gan ddefnyddio corn silk fel eu gwallt pan oedd hi'n hogan fach.
Ydy'r Beibl yn rhy hir? Fydd yn cymryd gormod o amser i ddarllen o'r dechrau i'r diwedd? Dim problem. Dyma grynodeb cyfleus gan Wenynen fel cewch chi gael yr hanfod mewn pum munud! Fy ffefrynnau crynodeb ydy'r Salmau, Esia, 2 Timotheus.