trochi mewn ieithoedd
Dw i'n ceisio gwrando ar fy iPod cyn amled a bo modd, hynny ydy, yn Eidaleg ac yn Ffrangeg tra fy mod i'n gwneud gwaith tŷ neu yrru o gwmpas y dref. Fe wnes i newid iaith You Tube a Face Book yn Eidaleg. Pan fydda i'n googlo, bydda i'n ceisio defnyddio Eidaleg oni bai'r pwnc yn rhy gymhleth. Bydda i'n defnyddio ryseitiau Eidaleg hefyd, (ond y broblem ydy bod yna fwy amrywiaeth ohonyn nhw yn Saesneg.) Falch iawn o wybod bod Federica sydd gan flog hyfryd i ddysgu Japaneg i'r Eidalwyr, yn gwneud yr un peth, ond mae hi'n gwneud llawer mwy na fi. Rhaid i fi ddilyn ei hesiampl!
No comments:
Post a Comment