Roedd yn brofiad anhygoel. Bwyta'r pethau ar y plât penodol ac yfed gwin wrth ddarllen adnodau ynglŷn Ecsodus a geiriau Iesu yn fy ngwneud gwerthfawrogi ystyr y Pasg. Mae popeth a ddigwyddodd yn Ecsodus yn arwain at Iesu. Rhaid eglwysi Cristnogol ddathlu Passover. Gyda llaw, coginiodd y ffrind ginio mawr, blasus hefyd.
Saturday, March 31, 2018
pryd seder
Roedd yn brofiad anhygoel. Bwyta'r pethau ar y plât penodol ac yfed gwin wrth ddarllen adnodau ynglŷn Ecsodus a geiriau Iesu yn fy ngwneud gwerthfawrogi ystyr y Pasg. Mae popeth a ddigwyddodd yn Ecsodus yn arwain at Iesu. Rhaid eglwysi Cristnogol ddathlu Passover. Gyda llaw, coginiodd y ffrind ginio mawr, blasus hefyd.
Friday, March 30, 2018
passover
Bydd Passover yn cychwyn heno, ac yn para am wythnos. Dathlodd Iesu'r ŵyl fwyaf honno bob blwyddyn fel pob Iddew ffyddlon; dathlodd o hi am y tro olaf efo'i ddisgyblion cyn iddo fynd i'r groes. Yn hytrach nag oen a gafodd ei aberthu, fo oedd yr oen berffaith Dduw. Mae gan ŵyl Passover lawn o symbolaeth. Ces i a'r gŵr ein gwahodd i swper Seder heno gan ffrind Iddewig sydd yn credu yn Iesu. Edrych ymlaen.
Thursday, March 29, 2018
lle maen nhw?
Wednesday, March 28, 2018
alexander fawr
Dw i'n dal i fwynhau dysgu daearyddiaeth Feiblaidd ar lein. Dw i newydd orffen y bennod sydd yn sôn am Alexander Fawr. Roedd yn hynod o hwyl darllen yn fanwl am yr hogyn ifanc enwog hwnnw a oresgynnodd cymaint o diroedd mewn deg mlynedd. Ffeindiais gyfres o fideo o safon uchel, a dyma ddechrau ei gweld un bob dydd efo'r gŵr. Maccabees ydy'r pwnc nesaf ar y cwrs.
Tuesday, March 27, 2018
glaw gwanwyn
Monday, March 26, 2018
silff llyfrau
Saturday, March 24, 2018
ffa coffi o guatemala
Friday, March 23, 2018
bwydwr adar
Creodd y gŵr fwydwr adar gan ddefnyddio hen lamp llawr. Mae hwn yn berffaith i gadw hadau i'r adar rhag y gwiwerod. Dw i eisiau bwydo'r olaf ond ddim eisiau iddyn nhw fwyta'r hadau i gyd. Maen nhw'n cael hadau ar y rheilen. Mae'n gweithio ac mae cardinals yn mynychu'r bwydwr tra bod ambell i wiwer geisio dringo'r polyn, heb lwyddo.
Thursday, March 22, 2018
gwersi hebraeg
Mae gwersi Hebraeg newydd ar You Tube! Daniel o Tel Aviv ydy'r tiwtor. Mae'n anodd ffeindio gwersi sydd ddim yn rhy hawdd, anodd na diflas. Mae hyn yn berffaith i mi. Mae yna ymarferion ar lein hefyd, ac mae Daniel yn annog i chi yrru eich ateb iddo. A dyma a wnes i.
Wednesday, March 21, 2018
jiráff
Tuesday, March 20, 2018
alergedd bwyd
Mae fy merch yn Japan newydd ddarganfod bod ganddi alergedd i lefrith, glwtyn, wyau, a soi! Mae bywyd yn anodd iawn yn Japan os oes gynoch chi alergedd i soi oherwydd bod soi mewn cynifer o fwydydd yno. Cafodd hi sioc pan glywodd y dyfarniad gan y meddyg, ond mae hi'n ymdopi a cheisio gwneud y gorau ohono yn paratoi bwyd blasus a maethlon fel hyn.
Saturday, March 17, 2018
adref dros wyliau
Daeth y ddau blentyn adref neithiwr dros wyliau'r gwanwyn. Byddan nhw adref am wythnos cyn mynd yn ôl i College of the Ozarks. Roedden nhw'n astudio a gweithio mor galed fel pawb arall yn y brifysgol, fel dwedodd y prifathro wrth yr Arlywydd Trump yn St. Lois, "does gan fy myfyrwyr amser i ddiogi fel Snow Flakes." Mae'n braf bod nhw'n cael ymlacio am wythnos.
Friday, March 16, 2018
murlun yn florida
Thursday, March 15, 2018
yn st. lois
Aeth yr Arlywydd Trump i St. Lois ddoe. Tra oedd yn ymweld â ffatri Boeing, diolchodd rhyw ddwsin o bobl yn Nhalaith Missouri iddo am y toriad treth diweddaraf. Tri ohonyn nhw oedd prifathro a staff College of Ozarks lle mae fy nau blentyn yn astudio ynddo! Roedd y ddwy ddynes yn llawn o emosiynau a dweud wrtho sut roedden nhw'n defnyddio'r bonws mawr.
Wednesday, March 14, 2018
superman yn israel
Mae Superman yn ymweld ag Israel ar hyn o bryd. Ymwelodd â'r Prif Weinidog Netanyahu'n rhoi cymaint o barch i'r olaf. Dwedodd mai breuddwyd oedd dod i Israel. Er nad ydy o'n Iddewig (hanner Japaneaidd a rhan Gymreig ydy o!) mae Dean Cain yn gefnogwr brwd Israel a'r Arlywydd Trump. Hogyn ifanc Iddewig a greodd Superman yn y 30au wedi'r cwbl. Ac felly mae'n briodol i'r superhero ddod adref.
Tuesday, March 13, 2018
prager university
Prager University ydy un o'r rhaglennu dw i a'r gŵr yn mwynhau ei weld ar You Tube. Y diweddaraf oedd "pam adawodd Prydain y Cenhedloedd Unedig?" a esboniwyd gan y dyn addas ar gyfer y pwnc hwnnw, sef Nigel Farage (un o fy ffefrynnau arall.) Mae'n ymddangos bod llywodraeth Prydain yn cymryd amser ofnadwy o hir i wireddu canlyniad y refferendwm.
Monday, March 12, 2018
dim ond yn oklahoma
Mae'r gŵr wrthi'n datblygu ei hobi sydd wedi troi'n fusnes newydd, sef dysgu gwers conceiled carry. Wedi i'r myfyrwyr ddysgu'r rheolau, diogelwch, ayyb dan do, maen nhw'n mynd i'r cae cyhoeddus penodol fel arfer ar gyfer yr hyfforddiant ymarferol. Ddoe, fodd bynnag, aeth y dosbarth i fferm ei ffrind. Ymgasglodd cynulleidfa chwilfrydig annisgwyl. Doedden nhw ddim yn meindio sŵn mawr y gynnau o gwbl. Roedd bron i afr fwyta'r papur targed yn llaw fy ngŵr!
Saturday, March 10, 2018
sain y distawrwydd
Mae pobl yn sgwrsio heb siarad;
mae pobl yn clywed heb wrando.
Pa mor wir ydy'r llinell yma heddiw. Mae Maccabeats wedi rhoi golwg arall i'r gân enwog Sound of Silence a gafodd ei greu dros hanner can mlynedd yn ôl.
mae pobl yn clywed heb wrando.
Pa mor wir ydy'r llinell yma heddiw. Mae Maccabeats wedi rhoi golwg arall i'r gân enwog Sound of Silence a gafodd ei greu dros hanner can mlynedd yn ôl.
Friday, March 9, 2018
canu danny boy
Dw i heb glywed Danny Boy ers blynyddoedd, ond dw i'n hoffi'r gân wedi'r cwbl er bod y geiriau'n eithaf trist. (Mae'n hawdd ei chwarae ar y bysellfwrdd hefyd.) Mae cynifer o gantorion wedi canu'r gân honno - dynion a merched. Dw i'n credu'n siŵr, fodd bynnag, mai mam Danny, dim ei gariad, a oedd yn canu am ei hogyn annwyl a fyddai'n gadael adref i fynd i frwydro. Felly mae'n rhaid cael ei ganu gan ddynes hŷn. Yn fy nhyb i, hi ydy'r orau.
Thursday, March 8, 2018
bysellfwrdd electronig
Dw i newydd brynu bysellfwrdd electronig bach (tegan i blant ydy o, a dweud y gwir, ond mae'n ddigon i mi.) Rhoddais ein piano ni i ffwrdd yn barod wedi i fy merch adael adref, ond roedd chwant chwarae alawon syml arna i'n sydyn. Dyma fo! - un ysgafn sydd yn medru cael pŵer drwy gyfrifiaduron. Cyfleus iawn chwarae tra fy mod i'n edrych ar y sgrin. Fy repertoire hyd yma - Danny Boy, Hava Nagila, Hatikva. Mae'n hwyl!
Wednesday, March 7, 2018
cadi
Mae'n ymddangos bod fy nec cefn yn cael ei adnabod gan yr adar o gwmpas hefyd. Mae nifer mawr ohonyn nhw'n dod i fwyta'r hadau. Yn ddiweddar dw i'n gweld un neu ddau'n aros am fwyd ar y rheilen wag yn y bore. Yn eu mysg mae Cardinal, aderyn coch hardd a'i wraig sydd yn llai lliwgar. Dw i'n ei galw fo'n Cadi; yn aml iawn mae o'n edrych arna i'n gosod hadau oddi ar linell trydan, a chyn gynted ag y bydda i'n mynd i mewn, bydd o'n dod am ei frecwast.
Tuesday, March 6, 2018
broffwydes deborah
Roedd y gynulleidfa'n gorfoleddu - 18,000 o bobl a llenwodd gynhadledd AIPAC ddoe. Maen nhw'n ei charu. Roedd hi'n edrych yn llawn o emosiynau. Dechreuodd siarad wedi iddyn nhw ddistewi (er bod hi'n dal i gael ei hymyrryd dwsin o weithiau gan gymeradwyaeth angerddol.) Mae hi'n hyfryd - llysgennad America i'r Cenhedloedd Unedig, un sydd yn sefyll dros y peth iawn heb ofn. Dw i'n ei charu hi hefyd. Pob bendith i Nikki Haley.
Monday, March 5, 2018
mary poppins
Saturday, March 3, 2018
hinamatsuri
Friday, March 2, 2018
brwydro, goresgyn neu farw
Creodd fy merch y dyluniad hwnnw yn ddiweddar ar gyfer sgarff sydd yn cael ei gwerthu gan Contrado, cwmni yn Llundain. (Mae o ar gael drwy Contrado US hefyd.) Mae blodau a phatrwm Japaneaidd yn asio'n hyfryd efo'r arwyddair penderfynol byddin Canada. Mae'r nwyddau gan y cwmni'n cael eu gwneud yn Llundain, dim yn Tsieina.
Thursday, March 1, 2018
dydd gŵyl dewi hapus!
Subscribe to:
Comments (Atom)



