Dyma furlun newydd arall gan fy merch hynaf. Un bach ydy hwnnw ar gyfer Ginger Pig, tŷ bwyta yn Denver, Colorado. Roedd hi a'i gŵr yn medru cwblhau mewn dyddiau. Roedd y perchennog wrth ei bodd. Gobeithio y bydd y cwsmeriaid yn gwirioni arno fo.
Wednesday, September 30, 2020
Tuesday, September 29, 2020
boomelang
Monday, September 28, 2020
gweddi ar yom kippur
Heddiw, mae Yom Kippur wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad heb fawr o debygrwydd i beth oedd Duw wedi'i olygu. Cafodd weddïau eu hamnewid aberthau gwaed ar ôl dinistrio’r deml yn 70 OC, a heb unrhyw sicrwydd o faddeuant cyflawn. Penderfynwyd byddai dim ond y rhai sydd wedi bod yn “ddigon da” yn cael eu henwau ysgrifennu yn Llyfr y Bywyd. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae Iddewon yn dymuno pob lwc i'w gilydd.
Darlun perffaith oedd neges Yom Kippur - darlun aberth Meseia a ddelai. Dw i'n gweddïo'r adeg hon yn enwedig y ceith llygaid Israel eu hagor, a byddan nhw'n canfod mai Iesu ydy'u Meseia.
Saturday, September 26, 2020
y diwrnod dychwelyd
Mae miloedd wedi ymgasglu yn Washington D.C. heddiw, ynghyd â miliynau o bobl dros America a'r byd ar y we, er mwyn i weddïo ac ymbil ar Dduw am ei drugaredd, wrth i ni edifarhau’n pechodau ni a'r pechodau cenedlaethol. Roeddwn i yn yr eglwys leol y bore 'ma gyda'r lleill yn ymuno â'r dyrfa yn Washington D.C. Mae'r gweithgareddau'n parhau.
Friday, September 25, 2020
tad gyda choesau hirion
Wednesday, September 23, 2020
gyoza ciwb
Coginiais gyoza i'r gŵr ar ei benblwydd. Fel arfer, byddwn i'n defnyddio lapio wonton sgwâr wrth dorri'r pedwar congl er mwyn i gael lapio crwn. Y tro 'ma, fodd bynnag, penderfynais ddefnyddio'r lapio sgwâr fel mae o. Cawson ni gyoza ciwb o ganlyniad. Roedd yn flasus beth bynnag, a heb wastraffu toes.
Tuesday, September 22, 2020
henoed swyddogol
Penblwydd y gŵr oedd hi ddoe. Trodd yn 65 oed, henoed swyddogol, a hithau'n Ddiwrnod Parchu Oedrannus yn Japan digwydd bod. Fe wnaeth ei hoff bethau i ddathlu, sef rhedeg 5 cilomedr gyda'i ffrind yn y bore, mynd i gae saethu i ymarfer ei sgil yn y prynhawn, ayyb. Coginiais ei hoff fwyd, sef grits, wyau a selsigen i ginio; gyoza a chacen fach i swper.
Monday, September 21, 2020
fideo dawns llew
Dyma fideo arall a wnaeth fy merch hynaf am ei murlun diweddaraf yn Indiana. Mae'r dyluniad ar seiliedig ar Kabuki. Yn y stori honno, bydd merch swil yn troi'n llew ffyrnig gyda mwng gwyn, ac yn dawnsio'n egnïol. Dwedodd fod y bobl leol yn gwirioni ar y murlun, ac roedd llinell hir i dynnu lluniau o'i flaen o.
Saturday, September 19, 2020
rosh hashanah
Mae utgorn Rosh Hashanah yn ein hatgoffa ni o ail ddyfodiad Iesu.
Deffro, di sydd yn cysgu,
a chod oddi wrth y meirw,
ac fe dywynna Crist arnat
Effesiaid 5:14
Pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio,
bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o'r nef...
1 Thesaloniaid 4:16
“Yn wir, yr wyf yn dod yn fuan.”
Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu!
Datguddiad 22:20
Friday, September 18, 2020
beibl drwy zoom
Wrth i nifer o weithgareddau gael eu cynnal drwy Zoom yn ddiweddar, cafodd y gŵr ei wahodd i roi gwers fer i FCO (Fellowship of Christian Optometrists) yng Ngholeg Optometreg Kentucky ddoe. Ar ôl paratoi am ddyddiau, siaradodd ar galon dda. Aeth popeth yn wych. Roedd y grŵp ffyddlon yn hynod o ddiolchgar.
Thursday, September 17, 2020
mwgwd arall
Cawson ni fwgwd Trump arall yn rhad ac am ddim gan y siop swyddogol ar lein. Dyma ei wisgo wrth siopa yn Walmart gyda'r gŵr. Cawson ni nifer o ganmoliaeth. Gofynnodd dyn lle prynon ni'r mygydau; mae o eisiau un hefyd!
Tuesday, September 15, 2020
bath mewn sudd tomato
Roedd Reuben, ci fy merch hynaf wrth ei fodd i weld ei feistres eto wedi iddi ddod adref o Indiana. (Roedd o'n aros gyda mam ei gŵr hi.) Dyma hi'n mynd â fo i'r cae cyfagos yn y cyfnos; welodd o gysgod anifail a mynd ato'n syth wrth feddwl mai cath oedd. (Mae o'n hoffi chwarae gyda chathod.) Cafodd o sioc ei fywyd fodd bynnag; drewgi, nid cath oedd. Roedd rhaid iddo gael bath mewn sudd tomato wedyn. Profwyd fod y driniaeth yn hynod o effeithiol.
Monday, September 14, 2020
mwgwd swyddogol
Saturday, September 12, 2020
gorffen y murlun
Friday, September 11, 2020
Wednesday, September 9, 2020
cyfweliad teledu
Cafodd fy merch gyfweliad gan orsaf teledu leol ar hanner awr wedi chwech ar gyfer y newyddion boreol. Dyma fo. Ces i wybod nifer o bethau ynghylch y prosiect hwnnw. Bydd yn wych os bydd hyn yn arwain at gyfle iddi fynd i Takaoka, Japan, chwaer-ddinas i Fort Wayne.
Tuesday, September 8, 2020
bwrw ymlaen
Ar ôl storm sydyn a ataliodd y gwaith, ail gychwynnodd fy merch a'i gŵr baentio'r murlun. Does dim golwg y dihirod ond trigolion normal sydd yn dod atyn nhw'n aml i roi geiriau clên. Yn eu mysg oedd rhyw wragedd o Japan sydd yn byw yno ond yn dod o dref gyfagos i'r un a gafodd fy merch ei geni ynddi!
Monday, September 7, 2020
tri phen-blwydd
Mae'r tymor pen-blwydd ar fy nheulu i - Medi 6, 7 ac 8. Roeddwn i'n arfer crasu tair cacen gan wahodd eu ffrindiau i ddathlu pan oedd y plant yn fach. Does dim byd i mi wneud eleni fodd bynnag; mae pawb wedi gadael cartref ac yn byw yn bell - un yn Texas a dwy yn Japan. Dim ond gyrru cardiau a chlywed hanes eu dathliadau a wnes i.
Saturday, September 5, 2020
murlun newydd
Friday, September 4, 2020
mwgwd trump
Wednesday, September 2, 2020
dawns lew
Bydd fy merch hynaf yn peintio murlun arall yr wythnos nesaf, yn Fort Wayne, Indiana. Kagamijishi (dawns lew,) un o berfformiadau Kabuki enwog ydy'r thema. Mae pwyllgor y prosiect eisiau iddi baentio menyw. Gan ei bod hi'n gwirioni ar Kabuki ar hyn o bryd, dewisodd y ddawns honno gyda phrif gymeriad benywaidd a fyddai'n troi'n llew.
Tuesday, September 1, 2020
diwrnod cyntaf
Diwrnod mawr i fy ŵyr oedd hi ddoe. Dechreuodd o mewn ysgol feithrin. Cafodd gyfarwyddiadau manwl am ei becyn cinio gan ei fam yn y bore. (Efallai eu bod nhw'n ormod iddo gofio!) Daeth adref yn hapus ddiwedd y diwrnod er nad oedd o'n cofio beth wnaeth o! Dim ond ei hoff fwyd yn y pecyn a fwytaodd heb gyffwrdd â'r llysiau. "Welais mohonyn nhw," meddai (yn Saesneg wrth gwrs.)










