Friday, August 31, 2018
bod yn iach
Wednesday, August 29, 2018
annwyd
Tuesday, August 28, 2018
tymor newydd
Mae tymor newydd College of the Ozarks newydd gychwyn - y flwyddyn olaf i fy merch a'r ail flwyddyn i fy mab. Bydd y myfyrwyr yn astudio'n galed tra bod nhw'n gweithio ar y campws am 15 awr yr wythnos ac oriau yn ystod y gwyliau er mwyn talu am y cost yr addysg. Nad oes cyfle i ddiogi yn y brifysgol honno. Mae ganddi lysenw hollol addas - Hard Work U.
Monday, August 27, 2018
lleuad sturgeon
Lleuad Sturgeon oedd hi! Yn ôl the Old Farmer's Almanac a thraddodiadau Indiaid America, cewch chi ddal y pysgod o'r enw Sturgeon yn hawdd yn ystod y lleuad lawn honno. Efallai mai dyma pam roedd y gŵr a'r mab yn medru dal cymaint o bysgod (er mai pysgod gwahanol a ddalion nhw.) Yn ôl y ffrind a aeth efo nhw, roedd y pysgod yn newynog oherwydd bod neb yn pysgota yn y llyn hwnnw, ac felly roedden nhw'n barod i gael eu dal!
Saturday, August 25, 2018
pysgod ffres
Aeth y gŵr a'n mab ifancaf i bysgota efo ffrind at lyn preifat ger Llyn Ten Killer. Cawson nhw ddiwrnod braf yno a dal lawer o bysgod, diolch i'r ffrind sydd yn hynod o fedrus. Fe wnaeth fillet ohonyn nhw hyd yn oed fel nad oedd angen arna i'w cyffwrdd nhw. I'r popty felly aethon nhw'n syth i fod yn swper blasus.
Friday, August 24, 2018
coler oer
Edrychwch ar filwyr IDF yn cael rhyddhad rhag y gwres llethol tra maen nhw'n gweithio'n ffyddlon! Daeth y fideo hwn gan Ari Fuld wên ar fy wyneb. Penderfynais a'r gŵr noddi un milwr wythnosau'n ôl. Dw i ddim yn gwybod pa un, ond mae'n amlwg ei fod o'n mwynhau ei goler oer. Mae yna gyfle o hyd i gyfrannu at yr achos.
Thursday, August 23, 2018
hoe fach haeddiannol
Wednesday, August 22, 2018
cyri ffacbys
Tuesday, August 21, 2018
yn y gwaed
Monday, August 20, 2018
tŷ newydd
Saturday, August 18, 2018
newydd orffen

Gorffennodd fy merch ei murlun er gwaethaf llifogydd a phopeth. Y teitl ydy "Bydd bywyd yn gorchfygu marwolaeth." Gobeithio y bydd o'n rhoi gobaith ac ysbrydoliaeth i'r bobl sydd yn ei weld.
Friday, August 17, 2018
diarhebion
Thursday, August 16, 2018
gadael yr almaen
Wednesday, August 15, 2018
falafel
Coginiais falafel yn y popty heb ddefnyddio gormod o olew. Dechreuais gyda ffa sych wedi'u mwydo mewn dŵr am ddiwrnod cyfan. Dylwn i fod wedi defnyddio hanner bag ohonyn nhw. Roedden nhw'n ormod i'r teclyn cymysgu. Wedi ceisio am hanner awr, llwyddais i wneud past. Aeth popeth yn dda o hynny ymlaen. Cawson ni falafel hynod o flasus.
Tuesday, August 14, 2018
ride along yn massachusetts
Dydy siwrnai fy merch ddim yn gyflawn heb Ride Along - cyfle i bobl gyffredin i fynd o gwmpas efo'r heddlu ar eu patrôl. A dyna a wnaeth hi neithiwr. Aeth o gwmpas efo Heddlu Lynn ar ôl gorffen ei gwaith am ddiwrnod ar ei murlun. Dw i'n hollol sicr mai hi ydy'r unig artist yno sydd gan gymaint o barch a chariad tuag at yr heddlu i wneud hyn.
Monday, August 13, 2018
llifogydd
Saturday, August 11, 2018
pen-blwydd nyth wag
Friday, August 10, 2018
munich
Cafodd fy merch yn yr Almaen brofiad annisgwyl. Wedi gadael ei ffrindiau yn y gorllewin, teithiodd hi ar y trên i ddychwelyd i'r fferm. Oherwydd newid yr amserlen, roedd rhaid iddi gymryd ffordd arall. Daeth y trên â hi i Munich, a phenderfynodd hi fynd ar wibdaith sydyn yno. Ac felly roedd hi'n medru ymweld â dinas enedigol ei thad ar ddamwain.
Thursday, August 9, 2018
dechrau murlun
Dechreuodd fy merch ei murlun gyda help ei gŵr. Mae o'n wir anferth. Does dim rhyfedd bod angen cerbyd lifft. Mae yna 30 o artistiaid yn creu murluniau ar draws y ddinas. Beyond Walls sydd yn noddi'r digwyddiad. Wrth baentio murlun, mae fy merch wedi cyfarfod amryw o bobl gan gynnwys yr artistiaid, yr heddlu lleol, aelodau'r eglwys gyfagos, gweithiwyr adeiladu a hyd yn oed y nifer o bobl ddigartref o gwmpas.
Wednesday, August 8, 2018
yn boston
Tuesday, August 7, 2018
hanes rhyfeddol
Mae fy merch yn dal i fwynhau ei hamser yn Almaen. Aeth i'r eglwys efo ei ffrindiau mewn tref orllewinol. Eglwys efengylaidd digwydd bod, a chanodd hi gân addoli gyfarwydd yn Saesneg ac Almaeneg. Rhan o'i hanes rhyfeddol ydy hyn - daeth fy merch ar draws y cwpl ifanc o'r Almaen hwnnw yn Tokyo fisoedd yn ôl ar ddamwain. Helpodd hi nhw drwy fod yn dywysydd preifat iddyn nhw'r diwrnod cyfan. Gwahoddon nhw hi i'w cartref yn yr Almaen os byddai ganddi gyfle. Dyma hi'n ymweld â nhw a mynd i'r eglwys efo nhw.
Monday, August 6, 2018
crwybr
Saturday, August 4, 2018
abel yn ôl
Friday, August 3, 2018
melon dŵr a thomatos
Thursday, August 2, 2018
celf ffa
Wednesday, August 1, 2018
mae o'n rhydd!
Mae Tommy Robinson newydd ei rhyddhau! Hwrê! Datganodd y prif farnwr fod Tommy wedi cael ei arestio, ei farnu'n euog, ei ddedfrydu i garchar, ei drin yn y carchar - i gyd yn hollol anghyfreithlon. Carcharor gwleidyddol oedd o. Llongyfarchiadau mawr iddo, i'w deulu ac i'w gefnogwyr drwy'r byd. Cyfiawnder a enillodd.
Subscribe to:
Comments (Atom)





