Mae coed hickory yn cynhyrchu tunnell o gnau eleni. Casglais lond bag yn y gymdogaeth. Rhostiais i nhw yn y popty ar ôl eu golchi mewn dŵr finegr. Maen nhw'n faethlon ac yn rhad ac am ddim, ond mae'n cymryd cymaint o amser i wahani'r cig o'r cregyn. Dw i'n mynd i adael y gweddill i'r gwiwerod.
Monday, October 31, 2022
Saturday, October 29, 2022
arwydd swyddogol
O'r diwedd, cawson ni arwydd swyddogol Kevin Stitt. Clywais fod ymgyrch ei wrthwynebydd yn cael ei ariannu'n hael gan y bobl fawr tu allan i'r dalaith. Dalen ni ddal ati'n wyliadwrus.
Friday, October 28, 2022
gyda Iesu
Dw i newydd ddod yn ôl o seremoni goffa aelod fy eglwys, eto. Cafodd John, 74 oed drawiad ar y galon, a fu farw yn y fan a'r lle'r wythnos diwethaf. Aeth at yr Arglwydd Iesu ar yr unwaith. Mae'r teulu a'i ffrindiau agos mewn sioc yn naturiol oherwydd ei fod o wedi mynd mor sydyn. Ond eiddigeddus ohono fo ydw i. Byddwn i eisiau ei ddilyn o, os yn bosib.
Wednesday, October 26, 2022
bygythiad i ddemocratiaeth
Democratiaeth, y Cyfansoddiad ydy rhai o'r 15 bygythiad difrifol fwyaf i ddemocratiaeth - ofnadwy o ddoniol a brathog, erthygl ardderchog arall gan y Wenynen ydy hon. Rhyfedd bod yna ond ychydig o "hoffi"!
Tuesday, October 25, 2022
daeth adref
Daeth paentiad fy merch hynaf yn Amgueddfa Morikami adref, wedi'r arddangosfa orffen. Gosododd hi o ar wal ei hystafell wely. Er ei fod o dipyn yn rhy fawr i'r ystafell, mae'n edrych yn hyfryd. Efallai bydd fy merch yn cael breuddwydion braf.
Monday, October 24, 2022
eidalwr yn america
Friday, October 21, 2022
siwrnai hir
Roedd rhaid i fi a'r gŵr fynd i Oklahoma City, bron i 200 filltir i ffwrdd, er mwyn adnewyddu’n cardiau adnabod y Fyddin. Caewyd y swyddfa agos a oedd yn arfer gofalu amdanon ni, diolch i'r toriadau cyllideb diweddar. Anfonwyd ein harian ni at wlad bell er mwyn amddiffyn ei ffin tra bod ein un ni yn cael ei threisio. Dyna'r rheswm y siwrnai hir beth bynnag. Aeth popeth yn iawn ac eithrio fy nghefn tost. Yr ochr gadarnhaol oedd fy mod i'n cael ymweld â fy merch hynaf a'i gŵr yn eu tŷ newydd yn Oklahoma City am y tro cyntaf. Roeddwn i'n medru helpu ei busnes tatŵ yn ystod y tymor prysur cyn Halloween hefyd.
Tuesday, October 18, 2022
y ddraig goch
Dangosodd y gŵr i mi'r llun hwn wedi cerdded yn y gymdogaeth - y Ddraig Goch! Cnociodd y gŵr ar y drws blaen a siarad â dynes y tŷ hyd yn oed! Roedd ei thaid yn dod o Dde Cymru. Er nad oedd hi erioed wedi bod yn y Wlad, mae hi eisiau ymweld â hi un diwrnod. Syndod mawr! Dw i ddim yn ddigon dewr cnocio ar ei drws fel gwnaeth y gŵr, ond os wela' i hi yn ei iard flaen, gobeithio y cawn ni sgwrs sydyn.
Monday, October 17, 2022
diwedd da
Saturday, October 15, 2022
katfish kitchen
Gan fod ffreutur y brifysgol ar gau'r wythnos 'ma, es i a'r gŵr i Katfish Kitchen, ein hoff dŷ bwyta yn y dref. Roedd y bwyd yn dda eto. Roeddwn i'n edrych ar fap y byd ar y wal tra bod y gŵr yn talu. Mae gan y cwsmeriaid gyfle i ddangos lle maen nhw'n dod drwy osod pin ar eu gwledydd gwreiddiol; cewch chi'ch synnu'n gweld bod nhw'n dod o bedwar ban byd. Gwelais ychwanegiad newydd - Israel!
Friday, October 14, 2022
cyfrannu at yr ymgyrch
Mae'r etholiad canol tymor America ar y trothwy. Rhaid cael gwared ar y gwleidyddion drwg sydd wedi achosi cymaint o niwed, ac ethol rhai bydd yn brwydro dros y bobl. Ar gyfer Llywodraethwr OKlahoma, mae dau ymgeisydd, sef Kevin Stitt (y llywodraethwr presennol) a Joy Hofmeister. Am ryw reswm neu'i gilydd, mae prinder ar arwyddion Stitt yn y dref. Dyma gyfrannu at yr ymgyrch gyda arwydd gwneud â llaw.
Wednesday, October 12, 2022
fideo rysáit
Tuesday, October 11, 2022
6 marblis
Ffeindiais fag o farblis yn y cwpwrdd. Dim ond chwech oedd gwastad. Ces i syniad gwych; gallan nhw gynrychioli fy chwech o blant. Gosodais i nhw yn ôl oedran y plant, o'r chwith i'r dde (merch, merch, mab, merch, merch, mab) wrth ffenestr y gegin. Maen nhw'n disgleirio yng ngolau'r haul.
Monday, October 10, 2022
cynhaeaf
Cynaeafodd y cymydog ifanc ei bwmpenni! Roeddwn i'n sylwi bob bore eu bod nhw'n tyfi'n enfawr dan eu dail llydan. Gobeithio y bydd o'n eu bwyta nhw nes ymlaen yn lle eu taflu nhw i ffwrdd.
Sunday, October 9, 2022
y mae'n gyfyng arnaf
Y mae arnaf awydd ymadael a bod gyda Christ, gan fod hynny'n llawer iawn gwell; ond y mae aros yn fy nghnawd yn fwy angenrheidiol er eich mwyn chwi. Rwy'n gwybod hyn i sicrwydd: aros a wnaf, a phara i aros gyda chwi oll, i hyrwyddo eich cynnydd a'ch llawenydd yn y ffydd.
Philipiaid 1:23 - 25
Philipiaid 1:23 - 25
Saturday, October 8, 2022
arwydd yr hydref
Dechreuodd dail y coed masarn yn newid lliwiau. Fedra i ddim peidio â chodi rhai ar y ddaear pan es i am y tro'r bore 'ma. Bydda i'n gosod pwys arnyn nhw er mwyn eu cadw (eto!)
Friday, October 7, 2022
bara cymun
Wednesday, October 5, 2022
adnod
Ceisiwch yr Arglwydd tra gellir ei gael,
galwch arno tra bydd yn agos.
galwch arno tra bydd yn agos.
Eseia 55:6
Un diwrnod, bydd yn rhy hwyr.
Tuesday, October 4, 2022
fy mam yn dathlu
Ces i'r llun hwn gan fy mrawd a ymwelodd â'n mam ni Ddiwrnod Parch yr Oedrannus. Trefnodd staff y cartref henoed ddathliad siriol drosti hi. Cafodd hi lythyr ac anrheg gan Lywodraethwr Tokyo. Mae hi'n gwisgo het a fest arbennig ar gyfer 100fed penblwydd.
Saturday, October 1, 2022
llew-forgrug
Mae antlions yn ôl yn fy iard gefn. Creaduriaid rhyfeddol ydyn nhw. Maen nhw'n palu'r pridd a chreu pyllau ffurf côn er mwyn dal morgrug a phryfed bach. Roeddwn i heb eu gweld nhw drwy'r haf, ond mae eu pyllau wrth y wal bellach. Yn anffodus, does dim llawer o forgrug yn ddiweddar am ryw reswm. (Roedd morgrug ym mhob man ychydig amser yn ôl.) Gobeithio y cân nhw ddigon o fwyd.
Subscribe to:
Posts (Atom)