Wednesday, June 12, 2013

venis 6 - happy hour (17:30 - 19:30)


Oherwydd fy mod i'n gyffro i gyd yn fod yn Fenis o'r diwedd, cerddais am chwe awr brynhawn cyntaf yn dilyn fy rhestr. Falch iawn o wisgo esgidiau hynod o gyfforddus! Mae yna dŷ bwyta lle cewch chi un ddiod a chymaint bynnag o cicchetti dach chi eisiau am €8 rhwng 17:30 a 19:30 (os dach chi'n medru ei ffeindio fo!) Yn ffodus llwyddais i gyrraedd Taverna del Remer. Wrth sipian fy Spritz cyntaf, bwytes ddarnau amrywiol o fwyd blasus. Cewch chi weld Ponte di Rialto o lan y camlas o flaen y bwyty.

3 comments:

Linda said...

Croeso'n ôl Junko! Yn edrych ymlaen i ddarllen am hanes dy ymweliad a'r Eidal. Newydd gael cip olwg ar dy flog Eidalaidd hefyd. Da iawn ! Cofio mynd i fyny i dop y campanile pan oeddwn yno yn 1985. 'Roedd hi'n wyntog iawn. Hefyd miloedd o golomenod i lawr yn y sgwâr :)

Linda said...

Yr awr hapus yn swnio'n lot o hwyl hefyd !

Emma Reese said...

Diolch yn fawr i ti, Linda! Doeddwn i ddim yn gwybod fod ti wedi ymweld â Fenis. Mae'r broblem colomenod yn waeth fyth y dyddiau hyn.