Monday, June 23, 2014

yr eidal 20 - gran caffe chioggia

Prynhawn dydd Sul cyntaf yn Fenis; wedi cerdded am sbel, penderfynais gael hoe fach a "chwarae Hepburn" yn Piazza San Marco, hynny ydy cael diod at fwrdd tu allan Gran Caffe Chioggia (heb gyfarfod ei Renato wrth gwrs!) Archebais Bellini yn syth pan ddaeth gweinydd smart รข bwydlen ata i. Roedd yr awyrgylch yn arbennig o ryfeddol: yr awyr las las, Palazzo Ducale o fy mlaen i, Canal Grande wrth fy ochr i, y bwrdd yn y cysgod, cerddoriaeth fyw, diod fach fach binc ofnadwy o flasus ... Er bod yna gynifer o bobl yn mynd a dod o fy nghwmpas i, roeddwn i'n llwyddo i'w hanwybyddu ac i deimlo'r lle a'r profiad arbennig. 

No comments: