Y peth cyntaf a oeddwn i eisiau ei weld bore Llun oedd y plac sydd yn coffau ymweliad y pedwar bachgen o Japan â Fenis yn 1585. Pan siaradais efo staff yn Seminario Patriarcale ces i fy synnu bod nhw'n gwybod pwy oeddwn i (diolch i Alberto Toso Fei!) ac aeth â fi'n syth at y plac. Doeddwn i ddim yn deall llawer o'r iaith hen, ond darllenais yn Japaneg ymlaen llaw - roedd Mancio, yr hogyn hynaf o'r pedwar yn benderfynol o adeiladu athrofa debyg yn Japan ar ôl iddyn nhw ddod adref. Yn anffodus, nid wireddwyd ei freuddwyd oherwydd yr erledigaeth erbyn y Pabyddion a gychwynnodd ar yr adeg honno. Roeddwn i'n sefyll o flaen y plac am sbel yn meddwl am y bechgyn a oedd yn Fenis ganrifoedd yn ôl.
Postiodd Alberto erthygl hynod o dda amdanyn nhw efo'r lluniau a anfonais ato fo ar Face Book.
No comments:
Post a Comment