Saturday, June 30, 2018
geiriau cyntaf
"Mama, Dada, Nene, Baba" Geiriau cyntaf fy ŵyr a glywais y bore. Anfonodd fy mab y fideo o'i fabi dwy flwydd oed. Roedd o a'i wraig yn poeni am eu babi; mae o'n hynod o ddeallus heb os, ond heb ddweud gair tra bod babis ei oedran yn siarad erbyn hyn fel arfer. Fedrwn i ddim peidio â chrio wrth weld y fideo - y moment sydd yn debyg i Helen Keller wrth y ffynnon. Dwy fodryb fy ŵyr ydy Nene a Baba gyda llaw.
Friday, June 29, 2018
crys gwirfoddolwr
Thursday, June 28, 2018
lleuad lawn
Codais yn gynt nag arfer i weld y lleuad lawn cyn iddi fachlud. Welais mohoni hi gyntaf. Roedd rhaid i mi gerdded hanner can medr i'w ffeindio. Dyma hi - enfawr, melyn oren, lawr yn yr awyr gorllewinol. Safais yng nghanol y ffordd wag, a'i gweld. Yr Arglwydd Dduw a'i creodd.
Wednesday, June 27, 2018
peth siriol
Tuesday, June 26, 2018
y gath euog
Roeddwn i'n digwydd gweld un o'r cathod euog yn croesi'r stryd y bore 'ma pan oeddwn i ar fin mynd am dro. Roddwn i'n edrych arni hi'n ddistaw bach i weld lle byddai hi'n mynd. Aeth yn syth at iard y drws nesaf heb betruso, a dechrau chwilio am y llecyn gorau i ddefnyddio. Mae'r net plastig yn llwyddiannus! Dw i ddim yn gwybod pam nad ydy hi'n defnyddio ei hiard ei hun, ond nid fy mhroblem ydy hyn.
Monday, June 25, 2018
yn kobe
Saturday, June 23, 2018
buddugoliaeth
Enillon ni'r frwydr yn erbyn y cathod yn yr ardal! Prynodd y gŵr net plastig yn hytrach na weiren cwt ieir, a'i osod ar y llwybr cyfan. Mae o'n gweithio! Does dim "olion cathod" o dano fo! Doedd gan y gŵr amser, fodd bynnag, i orchuddio'r llwybr ar ochr y tŷ cyn gadael am Japan. Mae'n amlwg mai dyna le mae'r cathod yn defnyddio bellach. Bydd o'n dod adref yn fuan, ac wedyn bydd rhaid iddyn nhw ffeindio tŷ bach yn rhywle arall!
Friday, June 22, 2018
cwpan coffi
Thursday, June 21, 2018
gyoza ffansi
Wednesday, June 20, 2018
hwyl fawr!
Hwrê! Bydd America'n gadael Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig! Mae'n hen bryd! Gwledydd sydd yn cam-drin hawliau dynol ydy'r rhan fwyaf o aelodau'r cyngor ynghyd â rhai sydd yn rhy ofnus mynegi eu barn yn eu herbyn. Nid dim ond diwerth, maen nhw'n cuddio eu troseddau, ac arbenigo yn condemnio'r unig ddemocratiaeth yn Nwyrain Canol, sef Israel. Awyr ffres oedd araith Nikki Haley ymysg y criw o ragrithwyr.
Tuesday, June 19, 2018
teithiwr rhyngwlado
Mae'r gŵr newydd adael am Japan. Rhoi darlith mewn coleg optometreg yn Nagoya ydy'r prif amcan, a bydd o'n ymweld y teulu yno hefyd. Gofynnodd fy merch sydd yn gweithio yn Tokyo, am Winnie the Pooh, ei hoff anifail meddal. Teithiwr rhyngwladol ydy Pooh. Roedd o efo fy merch ym Mhrifysgol Abertawe pan oedd hi'n astudio yno am hanner blwyddyn. Bydd o'n mynd i Japan y tro hwn.
Monday, June 18, 2018
anrheg hyfryd
Saturday, June 16, 2018
tŷ bach cymunedol
Mae'n ymddangos bod y cathod yn y gymdogaeth wedi dewis ein hiard ni fel eu tŷ bach cymunedol. Cafodd cath arall ei gweld ar y camera diogelwch. Gosododd y gŵr weiren cwt ieir ar y llecyn. Mae o'n gweithio. Ond does gynnon ni ddim digon. Cloddiodd cath (neu gathod) y rhan lle nad oes weiren. Dyma ddyfeisio rhwystr am y tro. Rhaid iddo weithio nes i'r gŵr brynu mwy o weiren.
Friday, June 15, 2018
penderfyniad hurt arall
Pasiodd y Cenhedloedd Unedig benderfyniad hurt arall. Mae cymaint o droseddau hawliau dynol erchyll yn mynd ymlaen yn y byd bob dydd, ond cyhuddo IDF am "ddefnyddio grym eithafol yn erbyn pobl Gaza druan" ydy eu hoff bwnc diweddar. Maen nhw'n anwybyddu Hamas sydd yn benderfynol o dorri'r ffin er mwyn lladd pob Iddew, a defnyddio pobl Gaza fel tarian dynol; addawon nhw lansio 5,000 barcud tân at dir Israel ar achlysur diwedd Ramadan, eu gŵyl sanctaidd. Beth mae'r CU yn disgwyl i IDF wneud? Gadael i Hamas ddinistrio pobl Israel? Cywilydd ar y gwledydd, gan gynnwys Japan, a bleidleisiodd dros y penderfyniad.
Thursday, June 14, 2018
72 oed!
Wednesday, June 13, 2018
cafodd ei ddal ar y camera diogelwch
Dydy gwaddodion coffi ddim yn gweithio. Prynodd y gŵr hyd yn oed ddeg bag o ddarnau cedrwydd a'u gosod yn y lle penodol wedi clywed bod cathod yn casáu’r arogl. Mae cath y cymydog yn dal i fynd i'r tŷ bach yn ein hiard ni heb falio dim am y rhwystr! Cafodd y trosedd ei recordio ddoe ar y camera diogelwch o'r diwedd. Gyda'r dystiolaeth gadarn, aeth y gŵr at y cymydog a gofyn iddyn nhw am gymorth. Gobeithio y byddan nhw'n cymryd cyfrifoldeb am eu cath.
Tuesday, June 12, 2018
aelod newydd
Monday, June 11, 2018
sêl y brenin hezekiah
Mae eitemau hanesyddol yn dal i gael eu cloddio yn Jerwsalem drwy'r amser er gwaethaf ymdrech caled rhai Arabaidd i wadu'r cysylltiad rhwng y ddinas a'r Iddewon. Darganfyddiad pwysig diweddarach ydy sêl y Brenin Hezekiah a sêl Eseia. Cynhaliwyd seremoni agoriadol ar gyfer arddangosfa sydd yn cynnwys y seliau hynny ynghyd â dwsinau o eitemau pwysig eraill. Yn Edmund, Oklahoma mae'r arddangosfa. (Syndod mawr!) Aeth y gŵr i'r seremoni, a chael gwybodaeth werthfawr. Cafodd anrheg fach hefyd - copi plastig o sêl Hezekiah mewn ffurf magnet oergell.
Sunday, June 10, 2018
rhyddhewch tommy!
Er gwaethaf y bygythiad a'r ymyrryd gan yr heddlu, casglodd dros 20,000 o bobl yn Llundain ddydd Sadwrn er mwyn galw ar Lywodraeth Brydain am ryddhau Tommy Robinson. Roedd Tommy yn gweithio'n ddygn i amlygu troseddau'r gang Mwslemiaid yn erbyn miloedd o blant ifanc Prydain. Fo a gafodd ei arestio a'i gondemnio i'r carchar, nid y gang, ac yn anhygoel o gyflym hefyd. Hyfryd gweld cynifer o bobl gyffredin, wedi cael eu digon, ymuno â'r protest, ac ambell i Ddraig Goch hefyd.
Saturday, June 9, 2018
tlws crog
Friday, June 8, 2018
barcud tân
Ers dau fis mae Hamas yn dwysau eu tactegau ar gyfer torri'r ffin er mwyn ymosod ar y cymunedau cyfagos Israel, drwy lansio rocedi, coctel molotov, ayyb tra defnyddio pobl Gaza fel tarian ddynol. Eu dyfais newydd ydy barcud tân sydd yn achosi difrod difrifol i gaeau amaethyddol yn Israel heb sôn am yr anifeiliaid gwyllt a'r amgylchedd yn yr ardal. Mae'r byd yn gyflym i gondemnio IDF sydd yn cael eu gorfodi i amddiffyn eu pobl, ond anwybyddu trais Hamas. Mae'n hen bryd i'r byd ddeffro ac i weld beth sydd yn mynd ymlaen.
Thursday, June 7, 2018
gwelliant diweddaraf
Wednesday, June 6, 2018
goodwill a'r heddlu
Mae fy merch yn Las Vegas efo'i gŵr. Mae hi'n mwynhau gwyliau tra ei fod o'n mynychu cynhadledd. Y peth cyntaf a wnaeth oedd mynd i siopa yn Goodwill, siop elusen! Mae hi'n fedrus ffeindio bargen a'i werthu ar y we. Dw i'n hoffi siopa mewn siopau elusen hefyd oherwydd mai dyna'r unig le i mi ffeindio fy hoff steil, sef hen ffasiwn! Yr ail beth a wnaeth fy merch ydy mynd i'r heddlu er mwyn rhoi cais at Ride Along - cyfle i bobl gyffredin i fynd o gwmpas efo plismon mewn car yr heddlu er mwyn gweld eu gwaith.
Tuesday, June 5, 2018
51 mlynedd yn ôl
Dechreuodd Rhyfel Chwe Diwrnod 5 Mehefin 51 mlynedd yn ôl - Israel, gwlad fach newydd-anedig yn erbyn y lluoedd ar y cyd o'r Aifft, Gwlad Iorddonen, Syria ac Irac. Yn erbyn pob rhwystr, er gwaethaf pawb a phopeth, enillodd Israel. Roedd Arglwydd y Lluoedd gydag Israel; mae o gyda nhw heddiw ac am byth.
Monday, June 4, 2018
mwy hwylus neu beidio
Dw i newydd brynu peiriant cymysgwr wrth obeithio y byddai'n hwylus gwneud hummus a phethau felly. Mae o'n wir bwerus, ond doeddwn i ddim yn meddwl pa mor drafferthus byddai'r gwaith glanhau! Ar ben hynny, mae'r gwydr yn ofnadwy o drwm. Mae'n llawer gwell gen i fy nghymysgwr ffon rhad a dweud y gwir! Efallai y bydd y teclyn newydd hwnnw'n gorffwys ar y silff.
Saturday, June 2, 2018
diddannedd, da i ddim
Ydyn wir - y Cenhedloedd Unedig. Maen nhw wedi bod yn nwylo'r gwledydd sydd yn erbyn America ac Israel ers amser. Profi eu hunain maen nhw unwaith yn rhagor drwy gondemnio Israel heb gondemnio Hamas a lansiodd dros gant o rocedi tuag at drigolion Israel, ac sydd yn defnyddio pobl Gaza fel tarian ddynol. Mae angen diogelu rhag Hamas nid rhag Israel, ar bobl Gaza. Diolch i Nikki Haley a wrthododd y cais gan Kuwait. Dylai America gael gwared ar bencadlys y sefydliad diddannedd a da i ddim oddi ar y tir gwerthfawr ar lannau afon yn Manhattan.
Friday, June 1, 2018
persuasion
Subscribe to:
Comments (Atom)
