Wednesday, October 31, 2018
dwyn neu dim dwyn?
Tuesday, October 30, 2018
barod am y gaeaf
Monday, October 29, 2018
mwy o awdio
"Rhaid i ti ei ddarllen," meddai fy merch. Sherlock Holmes, mae hi'n ei feddwl. Un o ffefrynnau fy mhlant oedd y gyfres pan oedden nhw'n ifancach. Aeth tri ohonyn nhw i Baker Street yn Llundain hyd yn oed flynyddoedd yn ôl. Mae fy merch yn cyfarwyddo sin byr arall oddi wrth un o storiâu Holmes. Dyma ddechrau gwrando arnyn nhw (yn lle darllen.) Gorffennais ddwy, a dw i wrthi ar y drydedd tra fy mod i'n crosio. Maen nhw'n hynod o hwyl! Does rhyfedd bod y plant wedi gwirioni arnyn nhw. Mae yna ddigon i bara i mi greu hanner dwsin o hetiau.
Saturday, October 27, 2018
rhif dieithr
Dw i byth yn ateb rhifau dieithr er mwyn osgoi galwadau sothach. Ddoe, fodd bynnag, penderfynais ateb un wrth feddwl siarad Cymraeg. Ac felly dechreuais, "s'mae, sut dach chi?" I fy syndod mawr, cwmni lanhau simneiau oedd ar yr ochr arall a oedd eisiau fy atgoffa i am yr apwyntiad yr wythnos nesaf! Roedd y ferch druan mewn penbleth. Troais i'r Saesneg i orffen y sgwrs.
Friday, October 26, 2018
os yw Duw trosom
Des i ar draws gân wych arall. Un o fy ffefrynnau ydy hi'n barod - "im Elohim itanu" (os yw Duw trosom,) cân addoli yn Hebraeg gan Jamie Hilsden. Dw i'n hoff iawn o'i ganeuon (a'r caneuon o'r 60au!) Mae'r geiriau'n dod o adnodau'r Rhufeiniaid a'r Cyntaf Ioan:
Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn? (Rhufeiniaid 8:31)
Y mae'r hwn sydd ynoch chwi yn gryfach na'r hwn sydd yn y byd. (1 Ioan 4:4)
Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn? (Rhufeiniaid 8:31)
Y mae'r hwn sydd ynoch chwi yn gryfach na'r hwn sydd yn y byd. (1 Ioan 4:4)
Thursday, October 25, 2018
lliw
Wednesday, October 24, 2018
ydyn ni'n ifanc
Ydyn ni'n ifanc - teitl peintiad diweddaraf fy merchCreodd hi hwn yn barch tuag at y llanciau a'r llancesi sydd yn ymddangos yn hŷn oherwydd yr hyn maen nhw wedi eu gweld. Dydy hi byth eisiau anghofio'r rhain heb wynebau ac enwau, sydd yn cael eu casáu'n aml wrth gludo'r baich trwm. Maen nhw'n ifancach na hi, ac yn ifancach na ni.
Tuesday, October 23, 2018
I'r gad!
Monday, October 22, 2018
peth hyfryd annisgwyl
Mae fy nwy ferch yn Japan yn setlo i lawr yn y fflat newydd (yn ara bach gan eu bod nhw mor brysur.) Peth hyfryd annisgwyl ydy gellir gweld Mynydd Fuji ar y gorwel oddi wrth y drws blaen! Rhaid bod yr awyr yn glir wrth gwrs, ond os felly, maen nhw'n cael cip arno fo pan adawan nhw a dônt adref bob bydd.
Saturday, October 20, 2018
yr het gyntaf
Friday, October 19, 2018
adeilad newydd
Thursday, October 18, 2018
cinio
Wednesday, October 17, 2018
fflamau o ryddid
Aeth y gŵr i College of the Ozarks i weld Flames of Freedom - sioe ein merch ni yn cymryd rhan ynddi. Perfformir y sioe gan griw theatr y brifysgol bob blwyddyn ers blynyddoedd, ac roedd ein merch ni ynddi'r llynedd hefyd. Mae hi'n perfformio'r un rhan, sef Ffrances sydd yn helpu milwyr lluoedd y Cynghreiriad, a chael ei saethu i farwolaeth. "Mae'n anodd aros yn llonydd, a pheidio â chrafu neu disian ar ôl i mi farw," meddai hi.
Tuesday, October 16, 2018
fflat yn tokyo
Roedd fy nwy ferch yn Japan yn byw mewn fflatiau gwahanol, ond maen nhw newydd symud i un hynod o braf i fyw efo'i gilydd. Mae yna dair ystafell wely (anodd ffeindio yn Tokyo) ar y llawr uchaf mewn adeilad tal. Mae'r termau'n anhygoel o dda hefyd, diolch i'r perchennog clên sydd yn nabod un o'r ddwy ers blynyddoedd. Mae o'n caniatáu i'r teulu aros yn y fflat, ac felly mae gynnon ni lety braf yn rhad ac am ddim pan fyddwn ni'n ymweld â Japan. Gwell fyth.
Monday, October 15, 2018
cnau hickory
Dydy gwiwerod ddim yn dod at y bwydydd adar ar y dec cefn yn ddiweddar; maen nhw'n prysur gasglu cnau hickory sydd ar gael yr adeg yma. Dw i'n hoffi codi llond llaw yn y gymdogaeth pan fydda i'n mynd am dro, a'u gosod nhw ar y dec. Mae'n ymddangos bod gwiwerod wedi sylwi'r gwasanaeth cyfleus oherwydd bod y cnau'n diflannu'n syth. Mae'n anhygoel bod nhw'n medru cnoi'r masglau ofnydwy o galed.
Saturday, October 13, 2018
tŷ cyfforddus
Mae Dinah, gwiwer ddof fy merch, newydd ffeindio tŷ cyfforddus. Clywodd fy merch sŵn o'r nenfwd, mynd allan, a galwodd, "Dinah!" drwy'r agorfa fach i'r atig. Yna "atebodd Dinah y drws," meddai hi! Yn anffodus, na cheith hi aros yno wrth reswm. Bydd rhaid troi Dinah allan. Gobeithio y bydd hi'n ffeindio lle mor addas.
Friday, October 12, 2018
modd croisio arloesol
Thursday, October 11, 2018
datrys problem
Bydd fy nwy ferch sydd yn gweithio yn Japan yn dod adref fis Rhagfyr yn ystod eu gwyliau. Dw i a'r gweddill o'r teulu'n llawn gyffro eu gweld nhw am y tro cyntaf ers hydion. Y cwestion mawr ydy lle cawn ni ymgasglu. Teulu enfawr ydyn ni bellach; mae fy mab hynaf angen dwy ystafell wely fel na fydd ei ddau fabi'n deffro ei gilydd yn y nos. Rhentu airbnb ydy'r ateb! Ffeindiodd a bwcio fy merch hynaf dŷ mawr, hyfryd yn Norman. Drwy rannu'r gost, bydd yn hollol resymol. Na fydda i'n gorfod golchi pentwr o dywelion a dillad gwely heb sôn am lanhau fy nhŷ wedi i'r teulu adael. Mae yna gynifer o dai bwyta yn Norman hefyd. Hwre!
Wednesday, October 10, 2018
hwyl fawr i nikki
Hynod o drist clywed bydd Nikki Haley yn ymddiswyddo fel Llysgennad i'r Cenhedloedd Unedig. Wrth sefyll yn gadarn ar yr egwyddor, roedd hi'n brwydro'n ddewr yn erbyn yr anghyfiawnder yn y sefydliad gwarthus, ac wedi llwyddo i ddylanwadu eu penderfyniadau. Bydd yn anodd i neb lenwi ei hesgidiau sodlau uchel.
Tuesday, October 9, 2018
hwyl fawr i miss page
Bydd Miss Page yn symud i Minnesota. Ces i a'r gŵr ginio bach efo hi ynghyd â rhai ffrindiau mewn tŷ bwyta. Roedd Miss Page yn byw yn y dref yma am flynyddoedd ers iddi ymddeol fel cenhades yn Ffrainc. Daeth yma i ofalu am ei rhieni oedrannus yn y cartref henoed, ond wedi iddyn nhw farw, penderfynodd hi symud yn ôl i'w thref enedigol yn y gogledd. A hi a ddysgodd Ffrangeg i fy merch. Bydd yn rhyfedd yn yr eglwys hebddi hi. Gyda llaw, ces i ostyngiad i'r henoed am y tro cyntaf!
Monday, October 8, 2018
cyfiawnder
Mae gynnon ni Brett Kavanaugh yn y Llys Goruchaf. Roedd o a'i deulu druan yn gorfod dioddef erledigaeth erchyll anghredadwy ers iddo gael ei enwi gan yr Arlywydd Trump wythnosau'n ôl. Hynod o falch nad ydy o wedi tynnu'n ôl, ond sefyll yn gadarn a dewr. Tywalltwyd cawod o weddïau arno fo a'i deulu drwy gydol y frwydr. Cyfiawnder a enillodd. Pob bendith iddyn nhw.
Saturday, October 6, 2018
athen a sparta
Dechreuais grosio het beanie. Dw i ddim yn cofio faint o weithiau dw i wedi ei dadwneud. Mae'n drist, ond dw i'n dysgu rhywbeth bob tro (gobeithio.) Nid gwastraff amser ydy hyn beth bynnag oherwydd fy mod i'n gwrando ar awdio wrth grosio. Dw i newydd ddarganfod gwersi rhydd ar lein ar amrywiol o bynciau a gynnigir gan Goleg Hillsdale. Dewisais y wers ar Athen a Sparta. Gobeithio y bydda i'ngwisgo'r het hon erbyn diwedd y wers.
Friday, October 5, 2018
lliwiau
Thursday, October 4, 2018
cadw'n heini
Wednesday, October 3, 2018
Tuesday, October 2, 2018
cyfweliad teledu
Cafodd fy mam ei chyfweld gan BS Asahi (gorsaf teledu.) Roedden nhw eisiau iddi adrodd ei hanes pan oedd hi'n gweithio i Gajoen, gwesty adnabyddus yn Japan bron i 80 mlynedd yn ôl. Cododd hi'n gynnar y diwrnod i dacluso ei fflat; golchodd hi wal y gegin hyd yn oed, a hithau ar gadair olwyn y rhan fwyaf o'r amser! Gwisgwyd mewn dillad ffasiynol, croesawodd hi'r criw ac adrodd ei hanes heb fymryn o ofn na swildod! Dw i'n llawn edmygedd.
Monday, October 1, 2018
yn y dechreuad
Wrth i Ŵyl Sukkot ddirwyn i ben, dechreuir darllen drwy'r Tora bob blwyddyn. Mae'r Beibl yn cael ei rannu'n benodau bellach, ond yn y dechrau rhannwyd y Tora, sef pum llyfr cyntaf y Beibl mewn cyfrannau (parasha/parashot yn Hebraeg.) Mae Coleg Beibl One for Israel wedi gwneud fideos er mwyn eich helpu i ddeall y Tora o safbwynt Israeli Meseianaidd. Dw i'n bwriadu darllen gyda nhw. Dyma'r parasha cyntaf ar gyfer yr wythnos hon.
Subscribe to:
Comments (Atom)


