sach deithio du
Cyrhaeddodd fy merch Tel Aviv yn ddiogel oriau'n ôl. Cafodd ei chwestiynu gan ddyn diogelwch El Al yn ddwys cyn iddi adael yr awyren am hanner awr! Y sach deithio ail-law a gafodd gan ei thad oedd achos yr amheuaeth; mae'r sach yn ddu ac yn edrych pe bai hi'n perthyn i ryw derfysgwr... Cafodd fy merch ei rhyddhau yn y diwedd fodd bynnag, ac mae hi a'r artistiaid eraill yn disgwyl bws penodol a fydd yn eu cludo nhw i Shtula.
No comments:
Post a Comment