Monday, December 31, 2012
addunedau blwyddyn newydd
Mi wnes i ddwy adduned blwyddyn newydd eleni a dw i wedi eu cadw. Fedra i ddim dweud beth oedd y gyntaf ond yr ail - sgrifennu'r blog hwn bob dydd. Ar wahân i'r wythnos roeddwn i yn Japan ym mis Mawrth (doedd gen i ddim modd,) sgrifennais i bwt bob dydd er bod yn anodd yn aml oherwydd diffyg pynciau. Mae sgrifennu'n gyhoeddus felly'n hynod o bwysig i mi ddal at fy Nghymraeg. Mae hyn yn peri i mi adolygu'r gramadeg, gwirio sillafu, ceisio llunio fy meddyliau ac yn y blaen. Diolch yn fawr a blwyddyn newydd dda i chi sydd yn dod yma.
Sunday, December 30, 2012
dal i grosio
Saturday, December 29, 2012
canlyniad trist
Dechreuais i deimlo'n sâl wedi cael y coffi hyfryd ddoe. Roedd o'n rhy gryf. Digwyddodd yr un peth ond mis diwethaf. Dw i'n gwybod yn bendant bellach fy mod i'n gorfod osgoi coffi cryf. Am siom; dw i'n hoff iawn ohono fo.
Friday, December 28, 2012
siop goffi newydd
Mae yna siop goffi newydd yn y dref. Es i a'r gŵr ynghyd â ffrind yno am baned a sgwrs. Cynigir amrywiaeth o goffi, te a brechdanau arbennig; wedi cael gwersi sydyn gan y perchennog ar y fwydlen, dewisais i cappuccino efo Irish cream a brechdan cig eidion. Lluniodd fy cappuccino ar y cownter i mi dynnu lluniau, chwarae teg iddo fo. Roedd popeth yn dda iawn, a chawson ni sgwrs fach ddymunol. Dechreuodd fwrw eira - am y tro cyntaf y tymor.
Thursday, December 27, 2012
ci efo offeiriad
Mae gan fy merch hynaf gi o'r enw Reuben. Pan fydd fy merch yn dod yma, fodd bynnag, fydd rhaid iddo aros tu allan neu yn y garej; er ei fod yn gi arbennig o dda ac annwyl, fedra i ddim dioddef anifeiliaid yn y tŷ. Y tro hwn, daeth fy merch a'i gŵr heb Reuben achos bod nhw'n ffeindio dog-sitter awyddus, sef yr offeiriad o Libanus. Mae o'n gwirioni ar Reuben ac wedi prynu gwely a theganau newydd iddo fo hyd yn oed. Mae'n ymddangos bod nhw'n hapus iawn efo'i gilydd. Gyrrodd yr offeiriad lun o Reuben ar garped braf a baratowyd iddo'n benodol!
Wednesday, December 26, 2012
efo'r teulu
Gyrrodd fy merch hynaf a'i gŵr drwy storm eirlaw a dod yn ddiogel ddoe. Roedd yn braf bod efo'n gilydd yn dathlu'r Nadolig, cyfnewid anrhegion, cael cinio Nadoligaidd, siarad a chwerthin. Fy hoff anrheg (gan y mab hynaf) oedd Baci - siocled o'r Eidal. Mae'n oer (o'r diwedd) tu allan ond yn gynnes tu mewn. (llun: y dŵr i'r adar wedi'i rewi)
Tuesday, December 25, 2012
Iesu ydy'r rheswm
Oherwydd y baban a aned flynyddoedd yn ôl,
Oherwydd yr anrheg arbennig a roddwyd gan Dduw,
Oherwydd y gobaith sydd gynnon ni ynddo Fe,
Nadolig Llawen, a Phob Bendith
Monday, December 24, 2012
crys nadoligaidd
Roeddwn i'n gwisgo fy hoff grys Nadoligaidd a brynais i mewn siop elusen yn ddiweddar. Yna, gwelais un o aelodau'r eglwys yn gwisgo crys efo union yr un fath o batrwm arno fo. Roedden ni'n teimlo'n arbennig o agos at ein gilydd, a dyma gael tynnu llun ohonon ni!
Sunday, December 23, 2012
crosio efo bysedd
Byddai'n syniad da i wau, neu grosio i fod yn fanwl, yn yr awyren a maes awyr yn ogystal â darllen llyfrau neu ddefnyddio teclynnau modern. Ond gewch chi fynd â bachau efo chi yn yr awyren? Ces i fy synnu'n ffeindio cynifer o gwestiynau tebyg ar y we! Mae'n ymddangos mai ar dymer y swyddog diogelwch mae'n dibynnu yn y bôn. Fyddwn i ddim eisiau cael atafaelu fy machyn. Yna ffeindiais i ateb - crosio efo bysedd! Gwych! Mae'n dipyn o waith ar y dechrau, ond mae'n siŵr bydd yn hawdd ar ôl ymarfer.
Saturday, December 22, 2012
gwniadwraig
Mae gan y gŵr broblem ffeindio dillad sydd yn ei ffitio fo; mae'n gas ganddo ddillad llac. Prynodd siaced Adidas ar y we'n ddiweddar. Mae o'n ei licio hi heblaw am y ffabrig sbâr o gwmpas ei wasg. Roedd o'n benderfynol o wella'r sefyllfa a dyma fo'n ffeindio gwniadwraig yn y dref a mynd â'r siaced ati hi ddoe.
Mae'r ddynes yn 85 oed ond yn sionc dros ben! Cywirodd y siaced mewn dim amser yn fedrus; mae hi'n ffitio'r gŵr i'r dim. Mae o, wrth gwrs wrth ei fodd. Gofynnais iddo dynnu llun ohoni hi pan aeth i nôl ei siaced. A dyma hi.
Mae'r ddynes yn 85 oed ond yn sionc dros ben! Cywirodd y siaced mewn dim amser yn fedrus; mae hi'n ffitio'r gŵr i'r dim. Mae o, wrth gwrs wrth ei fodd. Gofynnais iddo dynnu llun ohoni hi pan aeth i nôl ei siaced. A dyma hi.
Friday, December 21, 2012
fy het
Ces i syniad o wau kippa wedi gweld llun ohoni hi ar y we. Mae gynnon ni bentwr o edafedd sbâr yn y tŷ. A dyma gychwyn ar unwaith. Gan nad oeddwn i'n dilyn cyfarwyddiadau, roedd rhaid i mi ail-wneud sawl tro. Dyma hi, fodd bynnag, fy kippa gyntaf. Dw i'n eithaf balch o'r canlyniad. Ces i fy siomi, ar y llaw arall yn darganfod nad ydy'r Iddewon benywaidd Uniongred yn gwisgo kippa gan mai gwisg ddynion ydy hi. Na fyddwn i eisiau tramgwyddo neb, ac felly penderfynais ei galw hi'n het. Mae'n ddefnyddiol dros ben yn cadw fy ngwallt rhag syrthio ar fy wyneb. Dw i'n bwriadu gwau mwy!
Thursday, December 20, 2012
gwyntoedd cryfion
Ces i fy neffro gan wyntoedd ofnadwy o gryf yng nghanol nos. Roeddwn i'n ofni byddai yna dornado neu ddau o gwmpas oherwydd cryfder y gwynt. Mae'n dal i chwythu ond mae awyr las. Gan ei bod hi'n gynnes, mae'n anodd cofio mai ond dyddiau nes y Nadolig. Fe ddaw'r plant hyn adref i ddathlu'r Ŵyl. Bydda i'n coginio cig moch y tro hwn.
Wednesday, December 19, 2012
dyn hynaf
Dyn o Japan ydy'r hynaf yn y byd bellach. Mae ganddo ddwsin neu ddau o great great grandchildren (methais yn llwyr i ffeindio'r gair hwn yn Gymraeg!!) Ces i fy synnu'n ei weld o; does ganddo fawr o rychau ar ei wyneb! Er ei fod o yn yr ysbyty'n ddiweddar yn ôl y newyddion, mae o'n ymddangos yn anhygoel o dda gan ystyried ei oedran (115.) Mae o'n byw efo ei deulu yn hytrach na mewn cartref henoed; tybed mai hyn yn cyfrannu at ei gyflwr iechyd. Mae o wedi gweld canrif gyfan. Rhyfeddol.
Tuesday, December 18, 2012
mae'r bagiau'n ddiogel
Cafodd y gŵr gyfle i siarad â'n cymydog am ei gi o'r diwedd. Er bod y cymydog yn ceisio sicrhau'r ffens, mae ei gi bach yn gyfrwys iawn i ffeindio ffwrdd allan. Awgrymodd y gŵr iddo glymu ei gi ar ddiwrnod casglu sbwriel. A dyna a wnaeth. Bore ddoe, doeddwn i ddim yn siŵr a gallwn i fynd â'r bagiau allan a'u gadael. Pan es i allan, clywais y ci'n udo rhywle ond heb ddod ata i. Hwrê! Gadawais y bagiau'n ddiogel.
Monday, December 17, 2012
seddau hwylus
Mae Japaneaid yn gyfarwydd ag eistedd ar y llawr ar eu coesau'u plygu. (Roedd yna ond bwrdd isel yn y tŷ pan oeddwn i'n blentyn.) Y broblem ydy bydd eich coesau'n brifo ar ôl peth amser. Dyma sedd fach hwylus a ges i yn Japan flynyddoedd yn ôl. Mae hi'n ddefnyddiol dros ben; dw i'n cael eistedd ar y llawr heb frifo fy nghoesau. Yna ffeindiais i lun hwn o fynachod sydd yn eistedd ar seddau bach tebyg. Syniad da.
Sunday, December 16, 2012
rinc sglefrio
Dw i newydd ddod adref wedi helpu gwerthu diodydd a ballu yn ymyl y rinc sglefrio yng nghanol y dref. Adloniant newydd ydy'r rinc. Codir yn ystod y tymor gaeafol i'r trigolion. Roedd yn ddiwrnod cynnes iawn fodd bynnag, ac felly roedd y sglefrwyr yn chwysu wrth iddyn nhw fynd rownd a rownd. Daeth pedwar dynes yn eu 60au ynghyd plant a phobl ifanc; sglefriwr ardderchog oedd un ohonyn nhw! Cafodd ysgol fy mab ganiatâd i werthu byrbryd am ddyddiau, a dyma helpu efo ddwy ddynes arall. Doedd y busnes ddim yn rhy dda, ond mwynheais i sgwrs fach efo nhw!
Saturday, December 15, 2012
fy hoff gantwr newydd
Mynach Ffransisgaidd o'r Eidal o'r enw Alessandro Brustenghi ydy o. Recordiodd ei CD cyntaf yn stiwdio Abby Road yn ddiweddar, y digwyddiad cyntaf erioed ymysg mynachod (does syndod wrth reswm!) Mae ganddo lais hyfryd hyfryd a gwen didwyll, cyfeillgar. Mae o'n gorlifo efo bywyd a chariad tuag at Dduw a dynoliaeth. Gobeithio bydd o'n fendith i bawb bydd yn ei glywed o.
Friday, December 14, 2012
gwiwerod
Mae'n ymddangos bod yna fwy o wiwerod o gwmpas eleni am ryw reswm. Mae'r creaduriaid bychan yn prysur gasglu cnau a'u claddu. (Dw i'n falch nad ydyn ni'n colli trydan o'u herwydd bellach.) Y broblem ydy bod nhw'n croesi strydoedd heb ofal. Yn hytrach maen nhw fel pe baen nhw'n rhedeg o flaen ceir yn fwriadol weithiau!
Pan oeddwn i'n mynd am dro yn y gymdogaeth ddoe, gwelais wiwer wrth ffordd; daeth car yn ara' bach. Dyma'r wiwer yn dechrau croesi'r ffordd gan redeg o flaen y car. Methais i wneud dim ond agor fy ngheg a sbïo arni. Roedd rhaid bod y gyrrwr gweld fy wyneb hurt; stopiodd; aeth y wiwer yn ddiogel. Edrychais ar y gyrrwr - dynes oedrannus - a gwenu arni hi. Gwenodd hi'n ôl.
Pan oeddwn i'n mynd am dro yn y gymdogaeth ddoe, gwelais wiwer wrth ffordd; daeth car yn ara' bach. Dyma'r wiwer yn dechrau croesi'r ffordd gan redeg o flaen y car. Methais i wneud dim ond agor fy ngheg a sbïo arni. Roedd rhaid bod y gyrrwr gweld fy wyneb hurt; stopiodd; aeth y wiwer yn ddiogel. Edrychais ar y gyrrwr - dynes oedrannus - a gwenu arni hi. Gwenodd hi'n ôl.
Thursday, December 13, 2012
pecyn o corea
Cyrhaeddodd pecyn gan fy merch yn Corea ddoe'n annisgwyl. Anrhegion Nadolig i'r teulu a oedd ynddo fo. Doeddwn i ddim yn disgwyl iddi yrru dim gan ystyried pa mor brysur ydy hi bob bydd. Roeddwn i'n rhyfeddu hefyd ar y papur newydd Corëeg a ddefnyddiwyd fel padin. Gosodais yr anrhegion dan y goeden a rhoi'r papur newydd i'r gŵr iddo gael dysgu'r geiriau.
Wednesday, December 12, 2012
ffarwel i'r llyfrgell
Heddiw oedd y diwrnod olaf i mi wirfoddoli yn llyfrgell yr ysgol. Dechreuais y gwaith ddwy flynedd neu dair yn ôl; dw i'n teimlo mai dim ond yn ddiweddar dw i wedi dysgu enwau'r plant i gyd o'r diwedd. Bydda i'n eu colli nhw, ond mae'n amser i symud ymlaen.
Bydda i'n gweithio'n rhan amser i'r gŵr yn swyddogol (dwy awr bob bore) y mis nesa ymlaen. Mae o'n gweithio i gwmni o Japan hefyd ac angen help rhywun sydd yn ddwyieithog. Y myfyrwyr o Japan a oedd yn gweithio iddo ers blynyddoedd ond mae'n mynd i anodd recriwtio gweithiwyr da wrth nifer ohonyn nhw leihau. Felly rhois i gynnig a chael fy nerbyn. Edrycha' i ymlaen at y cyfle newydd.
Tuesday, December 11, 2012
ci bach!
Ces i brofiad ofnadwy a doniol ar yr un pryd. Wedi ffeindio'n bagiau sbwriel ni'n cael eu torri tu allan, roeddwn i wrthi'n eu tacluso. Mae yna gi bach cymydog sydd yn rhedeg yn rhydd yn ddiweddar. Roeddwn i'n siŵr mai arno fo roedd y bai. Yna, pwy a ymddangosodd a rhedeg tuag ata i ond y ci ei hun! Dechreuodd dorri'r bagiau o'r newydd. Ceisiais ei wthio fo i ffwrdd gan weiddi arno fo, ond pa ffyrnig bynnag ceisiais gael gwared arno, roedd o'n dal i fynd at y bagiau ac wedyn ata i! Roedd o'n neidio arna i'n hapus gan feddwl mai chwarae efo fo roeddwn i! Mi wnes i chwistrellu fineg-ddŵr ato fo ond faliodd o ddim. Yn y diwedd aeth o yn ôl at ei dŷ ac roeddwn i'n medru ail-fagio'n sbwriel ni rhywsut. Sgrifennais i nodyn at y cymydog yn gofyn am ofalu am ei gi ei hun. Mi adawais y nodyn wrth y drws gan fod o byth adref pan es i neu aeth y gŵr i siarad â fo. Gobeithio bydd o'n gweithredu'n gyfrifol y tro hwn. Dw i'n ddig ond mae'r holl bethau mor hurt a doniol fel na fedra i beidio â chwerthin!
Monday, December 10, 2012
pris gwerthfawr
Ces i gip ar Tom Cruise ar gae pêl-droed ym Manceinion y bore 'ma. Clywais fod o wedi hedfan mewn hofrennydd o Lundain i weld y gêm rhwng Man Uni a Man City. Aeth dau fyfyriwr o Japan yn y dref hon i Lundain i weld gêm arall yn ystod gwyliau'r hydref wythnosau'n ôl. (Arhoson nhw yno ond ychydig o ddyddiau.) Mae fy mab ifancaf yn breuddwydio i fynd i Loegr i weld gemau Uwch Gynghrair i gefnogi Chelsea ryw dro. Pris gwerthfawr i dalu, dw i'n siŵr i bobl sydd yn gwirioni ar bêl-droed, neu unrhyw chwaraeon.
Sunday, December 9, 2012
hoosiers a enillodd!
Hoosiers, tîm pêl-droed Prifysgol Indiana, a enillodd y bencampwriaeth. Cynhaliwyd y gêm derfynol yn Alabama heddiw ac enillodd Hoosiers 1-0. Alma mater y gŵr ydy Prifysgol Indiana, a thra oedd o'n ceisio ennill gradd arall yn yr un brifysgol, roedden ni'n byw yn Bloomington, Indiana am pum mlynedd cyn symud i Oklahoma. Cafodd fy nwy ferch eu geni yno hefyd. Felly dan ni wrth ein boddau pan glywon ni eu fuddigoliaeth funudau'n ôl. Ewch Hoosiers!
Saturday, December 8, 2012
skype
Dw i'n meddwl o newydd pa mor ddefnyddiol ydy Skype. Roedden ni'n arfer talu ffortiwn i ffonio fy mam yn Japan; dim ond doler neu ddwy bydd yn costio drwy Skype. Wrth gwrs bod yn rhad ac am ddim i siarad efo fy merch yn Corea sydd gan gyfri Skype. Anfonwyd anrheg gan rywun o Japan sydd ddim yn sylweddoli bod fy merch yn Corea. Pan yrrais i neges at fy merch, roedd hi eisiau gweld yr anrheg er mwyn ddiolch i'r anfonwr clên. Dyma ddangos iddi'r hances pert .
Friday, December 7, 2012
cais am basbort
Es i a fy merch ifancaf i swyddfa'r dref i gyflwyno'r ffurflen ar gyfer basbort iddi hi. Mae cais am basbort Americanaidd yn ddigon syml a bydd yn barod mewn tair neu bedair wythnos. (Roedd rhaid i mi fynd i Houston mewn awyren i adnewyddu fy mhasbort Japaneaidd!) Roeddwn i'n meddwl mai mis nesa'n ddigon cynnar i ddechrau'r proses, ond awgrymodd y gŵr i orffen popeth y mis 'ma wedi rhagweld anhrefn yn y llywodraeth flwyddyn newydd ymlaen. Dw i'n falch bod y cais ar ei ffordd yn barod.
Thursday, December 6, 2012
llun o beckham
Y fo a'n cyflwynodd ni i'r byd pêl-droed a dweud y gwir. Pan aeth fy nwy ferch hynaf i Japan deg mlynedd yn ôl, gofynnodd eu nain ydyn nhw wedi clywed am y pêl-droediwr del o Loegr o'r enw Beckham! Daethon nhw â'u brwdfrydedd adref wedyn, a dyma ni i gyd yn dechrau'n hoffter o bêl-droed ers hynny.
Mae'r gŵr yn sgrifennu cylchlythyr optometreg i gwmni o Japan bob mis ac yn ychwanegu cyfarchion tymhorol. Roedd o'n sôn am gêm olaf Beckham dros Galaxy yn ei lythyr diwethaf ac eisiau llun o'r dyn. Ffeindiodd un arbennig o dda (a drud hefyd!) Gan fod o wedi talu cymaint, dw i'n mynd i gymryd mantais ar y llun hefyd. Dymuniadau gorau i Becks wrth iddo gychwyn efo tîm newydd.
Shutterstock.com
Mae'r gŵr yn sgrifennu cylchlythyr optometreg i gwmni o Japan bob mis ac yn ychwanegu cyfarchion tymhorol. Roedd o'n sôn am gêm olaf Beckham dros Galaxy yn ei lythyr diwethaf ac eisiau llun o'r dyn. Ffeindiodd un arbennig o dda (a drud hefyd!) Gan fod o wedi talu cymaint, dw i'n mynd i gymryd mantais ar y llun hefyd. Dymuniadau gorau i Becks wrth iddo gychwyn efo tîm newydd.
Shutterstock.com
Wednesday, December 5, 2012
ewinedd nadoligaidd
Mae fy merch ifancaf yn hoffi paentio ei hewinedd. Fel arfer mae hi'n ofnadwy o brysur efo ei gwaith cartref, ond cafodd hoe fach ddyddiau'n ôl a dyma hi wrthi'n creu darluniau micro arnyn nhw'n fedrus. Dw i'n hoffi'r pengwin 'na!
Tuesday, December 4, 2012
plu eira papur
Des i ar draws You Tube sydd yn dangos sut i wneud plu eira papur del iawn. Eidales sydd yn esbonio ei chrefft, felly dw i'n cael dysgu Eidaleg ar un pryd. Ar y llaw arall, mae gwylio'r fideo a dilyn ei chyfarwyddiadau'n ddigon heb ddeall beth mae hi'n ei ddweud. Mi wnes i ddau inni a dau i fy mam yn Japan. Mi wna' i bâr arall i fy merch yn Corea.
Monday, December 3, 2012
codi coeden nadolig
Dw i a'r plant newydd godi'n coeden Nadolig ni ac addurno'r tŷ efo pethau tymhorol. Mae'n anodd credu bod y Nadolig ar y trothwy fel mae'n rhyfedd o fwyn ar hyn o bryd (75F/24C.) Cafodd y plant ei siomi gan y gaeaf cynnes diwethaf; roedden nhw'n bwriadu codi iglw eto. Roeddwn i'n digwydd cael sgwrs sydyn ddyddiau'n ôl efo'r ddynes a sgrifennodd yr erthygl am yr iglw yn y papur newydd lleol. (Cymdoges ydy hi.) Mae hi'n gobeithio y bydd fy mhlant yn codi un arall yn y gaeaf 'ma. Gobeithio y cawn ni eira go iawn.
Sunday, December 2, 2012
da iawn abertawe!
Mae fy mab ifancaf yn dilyn Uwchgynghrair Lloegr yn ffyddlon; talodd grin dipyn i Fox News i weld y gemau. Mae o'n adrodd y canlyniadau i mi pryd bynnag mae gêm, yn enwedig pan mae Abertawe'n chwarae. Ces i gip ar y ddwy gôl hyfryd gan Michu ddoe. Roedd y gŵr yn llawn edmygedd ar amddiffyn medrus Abertawe. Mae o eisiau i'w dîm weld rhan o'r gêm, ac efallai prynu crys Abertawe iddo fo ei hun y tro nesa!
Saturday, December 1, 2012
breuddwyd fy merch
Mae fy merch hynaf yn hoff iawn o heddweision ers ei phlentyndod. Roedd hi'n gyffro i gyd yn ysgwyd llaw efo heddwas pan oedd hi'n hogan ifanc yn Japan. Mae hi newydd orffen cwrs Heddlu Norman a gynigwyd i'r trigolion er mwyn iddyn nhw fod yn gyfarwydd efo gwaith yr heddlu. Wrth iddi ddod i nabod yr heddweision yno, mae hi'n cael ei gofyn am gymorth efo dylunio a thynnu lluniau drostyn nhw. (Y hi a gynigwyd ei gwasanaeth ar y dechrau a dweud y gwir!) Mae hi wrth ei bodd yn cael ymweld â gorsaf heddlu ger ei swyddfa'n aml. Dw i'n credu'n siŵr mai hi ydy'r unig berson sydd yn gwirioni ar gamu mewn i orsaf heddlu. Rŵan mae'n ffurfiol; cafodd ei chais ei dderbyn - gwirfoddolwr go iawn i Heddlu Norman ydy hi!
Friday, November 30, 2012
betys coch
Doeddwn i erioed wedi hoffi betys coch oherwydd y blas priddlyd, ond ces i synnu ar yr ochr orau pan goginiodd fy merch hynaf y llysiau 'ma efo garlleg ac olew olewydd yn y popty. Roedden nhw'n dda iawn ac wrth gwrs byddan nhw'n gwneud lles i chi. Dyma goginio rhai ynghyd y coesynnau i swper neithiwr. Roedd hyd yn oed y plant yn eu hoffi nhw. Rhybudd: peidiwch â synnu pan ewch chi i'r tŷ bach y diwrnod wedyn. Mae popeth yn iawn. Dim ond lliw'r betys coch ydy o!
Thursday, November 29, 2012
ar y coffi mae'r bai (dw i'n meddwl)
Wednesday, November 28, 2012
wedi'r gwyliau
Tuesday, November 27, 2012
potlwc catholig
Monday, November 26, 2012
cymun catholig
Bore ddoe yn lle mynd i'r eglwys gartref gyfarwydd yn Norman, aethon ni i'r eglwys Gatholig 'Libaneaidd' yn yr ardal. Mae'r offeiriad ifanc clên yn ffrind i fy merch a'i gŵr. Roedd dyna'r tro cyntaf i fi a'r teulu i fynd i eglwys Gatholig heb sôn am un Libaneaidd. Cafodd y Mas ei gynnal yn Saesneg a'u hiaith. Roeddwn i'n teimlo'n ddwfn bod ni'n credu'r un Arglwydd Iesu er bod ni'n ei addoli mewn ieithoedd ac arddulliau gwahanol. Yn ymysg y canu yn alawon Libaneaidd, clywais i gân addoli gyfoes gyfarwydd a gwenu. Uchafbwynt y Mas oedd y Cymun. Es at yr offeiriad efo pawb i dderbyn waffer efo diferyn o win arno fo yn fy ngheg. Roeddwn i'n teimlo'n rhyfedd ond hapus.
Sunday, November 25, 2012
p'nawn dydd sadwrn
Llwyddodd y gŵr brynu tocynnau i'r gêm pêl-droed Americanaidd am ond $30 dros dri ohonyn nhw achos bod y gêm wedi dechrau'n barod. $99 yr un oedd y pris cyn y gêm. Roedd y stadiwm yn llawn dop, dros 80,000 o bobl. Oklahoma University (y brifysgol leol) a enillodd. Er ei fod o'n arfer chware'r peth flynyddoedd yn ôl, dwedodd y gŵr fod y gêm braidd yn ddiflas. Roedd o'n sylweddoli bod llawer well ganddo bêl-droed!
Saturday, November 24, 2012
dal i fwynhau'r gwyliau
Aeth popeth yn iawn a chawson ni ginio blasus. Mi adawais i'r twrci yn y popty'n hirach rhag ofn. Gan fod o mewn bag popty, roedd yn llawn sudd. (Gollyngdod mawr i mi.)
Heddiw dan ni'n cael tynnu'n lluniau ar gyfer ein llythyr Nadolig. Fy merch hynaf ydy'r ffotograffydd. Yna, bydd y merched yn mynd i Oklahoma City i siopa tra'r dynion yn gwneud y pethau gwrywaidd fel cerdded o gwmpas Oklahoma University (mae yna gêm bêl-droed Americanaidd p'nawn 'ma) neu fynd i ganolfan saethu gynnau. Dan ni i gyd i fod i gyfarfod yn Oklahoma City ddiwedd y diwrnod i fwyta pizza Eidalaidd.
Heddiw dan ni'n cael tynnu'n lluniau ar gyfer ein llythyr Nadolig. Fy merch hynaf ydy'r ffotograffydd. Yna, bydd y merched yn mynd i Oklahoma City i siopa tra'r dynion yn gwneud y pethau gwrywaidd fel cerdded o gwmpas Oklahoma University (mae yna gêm bêl-droed Americanaidd p'nawn 'ma) neu fynd i ganolfan saethu gynnau. Dan ni i gyd i fod i gyfarfod yn Oklahoma City ddiwedd y diwrnod i fwyta pizza Eidalaidd.
Friday, November 23, 2012
black friday
Mae'r twrci'n dal yn yr oergell. Dw i'n bwriadu dechrau coginio mewn rhyw awr. Aeth rhai o'r plant i ganolfan siopa am 6 o'r gloch am Black Friday. Roedden nhw eisiau prynu offer cegin i mi (dywedon nhw wedyn) ond pan agorodd y ganolfan, dechreuodd y dyrfa enfawr a oedd yn aros wrth y drysau redeg tuag at y nwyddau arbennig o rad (roedd rhai'n gweiddi hyd yn oed) a diflannodd popeth ar y silffoedd mewn munudau. O leiaf caethon nhw brofiad diddorol! Dw i'n falch nad oedden nhw wedi cael eu hanafu yn y dyrfa wyllt. Rŵn, amser dechrau ar y twrci. Gobeithio fod o'n barod.
Thursday, November 22, 2012
gwyl ddiolchgarwch
Dw i a'r teulu yma yn Norman yn nhŷ fy merch hynaf. Roeddwn i wrthi'n trio dechrau coginio'r twrci a brynodd fy merch. Mi ddylwn i fod wedi gofyn iddi ei ddadrewi'n gynt. Mae gen i'r un broblem a ges i flynyddoedd yn ôl. Penderfynon ni beidio cymryd siawns ond gohirio'r cinio nes yfory. Dan ni'n mynd i dŷ bwyta nes ymlaen. (Diolch i rai sy'n gweithio heddiw dros bobl fel ni.)
Dwedodd fy merch fyddai hi'n coginio swper i ni. (Mae hi a'i gŵr yn cael cinio twrci efo teulu ei gŵr ar foment.) Bydd hynny'n llawer mwy dymunol na mynd allan.
Dwedodd fy merch fyddai hi'n coginio swper i ni. (Mae hi a'i gŵr yn cael cinio twrci efo teulu ei gŵr ar foment.) Bydd hynny'n llawer mwy dymunol na mynd allan.
Wednesday, November 21, 2012
teipiadur olaf
Dw i newydd ddarllen erthygl am y teipiadur olaf a gafodd ei gynhyrchu ym Mhrydain, yn Wrecsam i fod yn benodol. Ces i fy synnu braidd bod teipiaduron yn dal i gael eu gwneud o gwbl a dweud y gwir. Roeddwn i'n meddwl bod nhw'n perthyn i eitemau antique ers blynyddoedd. Ar y llaw arall, mae'n drist wrth feddwl mai ar deipiadur Olivetti roeddwn i'n dysgu sut i deipio amser maith yn ôl. A sgrifennodd T. Llew ddwsinau o'i nofelau gwych ar deipiadur Brother.
Tuesday, November 20, 2012
miloedd o ddail
Monday, November 19, 2012
rownd go-gyn-derfynol
Aeth tîm y brifysgol i rownd go-gyn-derfynol yn y twrnamaint cenedlaethol. Cynhaliwyd y gêm yn y stadiwm leol ddoe. Aeth y gŵr a'r mab ifancaf i'w gefnogi. Roedd yn gêm agos iawn. Ond wedi dau overtime, collon nhw gôl. Dwedodd y gŵr fod ein hogiau ni i gyd yn syrthio i'r cae a chrio. Fe wnaethon nhw'n dda hyd yma fodd bynnag.
Sunday, November 18, 2012
sgwrs eidaleg gyntaf
Mae taid tri hogyn ein tîm yn dod o'r Eidal. (Clywais i gan y gŵr.) Roedd o'n dod i bob gêm ond roeddwn i'n teimlo'n rhy swil siarad â fo. Ond wedi'r gêm ddoe, roedd yna gyfle perffaith, a dyma benderfynu cael sgwrs sydyn efo fo yn Eidaleg. Roedd o'n hynod o glên ac yn siarad yn araf a chlir. Symudodd i'r Unol Daleithiau dros 50 mlynedd yn ôl o Ynys Ischia ger Napoli. Mae ganddo berthnasau yna o hyd ac yn ymweld â nhw o bryd i'w gilydd. Ces i sgwrs Eidaleg go iawn am y tro cyntaf!
Saturday, November 17, 2012
11 - 9
Ddim canlyniad y gêm ydy o ond y nifer o'r hogia a chwaraeodd. Roedd yna gêm olaf y tymor heddiw, a dim ond naw o'n tîm ni a ddaeth i'r cae. Rhaid i'r rheolwr osod yr hogyn ifancaf (12 oed) ar y blaen gan fod o angen yr hogia cryfach ar yr amddiffyn. Er gwaetha'r anfantais, wnaeth ein hogia ni'n ardderchog. Roedd dyna'r tro cyntaf iddyn nhw beidio colli gôl mewn munudau cyntaf. Roedden nhw'n goroesi'r ffowliau cas gan y tîm arall hyd yn oed. 2 - 1 oedd y sgôr yn y diwedd. Er bod nhw wedi colli, fe wnaethon nhw eu gorau glas ac wedi gwella eu sgiliau hefyd. Dw i'n falch iawn ohonyn nhw.
Friday, November 16, 2012
ynys long ryfel
Mae fy merch hynaf newydd weld ffilm ddiweddaraf James Bond, sef Skyfall ac yn llawn cyffro dros yr ynys roedd y ffilm wedi cael ei saethu. Ynys fach fach sy'n perthyn i Japan ydy hi o'r enw Hashima neu Ynys Long Ryfel oherwydd ei golwg. Dw i erioed wedi clywed amdani hi a dweud y gwir, a dyma chwilio am yr hanes. Diddorol iawn. Efallai bydd twristiaid yn heidio i'r ynys oherwydd y ffilm.
Thursday, November 15, 2012
darlithoedd yn saesneg
Mae gan un o'r prifysgolion yn Japan gynllun i roi'r holl ddarlithoedd, ac eithrio dosbarthiadau'r iaith Japaneg, drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae'r Japaneaid yn medru gwneud llawer o bethau'n ardderchog, ond dydy dysgu ieithoedd eraill ddim yn un ohonyn nhw. Er bod Saesneg yn cael ei dysgu yn yr ysgolion dros deg mlynedd, does fawr o'r bobl yn medru'r iaith fain yn ddigon rhugl. (Doedd fy athro Saesneg yn yr ysgol ddim yn medru siarad Saesneg er ei fod o'n gwybod y gramadeg yn dda.) Dw i'n amau byddai'r holl fyfyrwyr yn medru astudio'r pynciau prifysgolaidd yn llwyr drwy gyfrwng dim byd ond Japaneg. Ar ben hynny, dw i'n amau bydd yna ddigon o athrawon Japaneaidd yn medru rhoi darlithoedd yn Saesneg da.
Mae'r Japaneaid yn medru gwneud llawer o bethau'n ardderchog, ond dydy dysgu ieithoedd eraill ddim yn un ohonyn nhw. Er bod Saesneg yn cael ei dysgu yn yr ysgolion dros deg mlynedd, does fawr o'r bobl yn medru'r iaith fain yn ddigon rhugl. (Doedd fy athro Saesneg yn yr ysgol ddim yn medru siarad Saesneg er ei fod o'n gwybod y gramadeg yn dda.) Dw i'n amau byddai'r holl fyfyrwyr yn medru astudio'r pynciau prifysgolaidd yn llwyr drwy gyfrwng dim byd ond Japaneg. Ar ben hynny, dw i'n amau bydd yna ddigon o athrawon Japaneaidd yn medru rhoi darlithoedd yn Saesneg da.
Wednesday, November 14, 2012
potlwc gŵyl ddiolchgarwch
Roedd potlwc gŵyl ddiolchgarwch yn Ysgol Optometreg heddiw. Gan fy mod i wedi colli un yn yr eglwys, roeddwn i'n falch iawn o fwyta cinio arbennig y tro 'ma. Wnes i ddim coginio dim ond roedd yna lawer mwy na digon i bawb. Roedd y twrci'n llawn sudd a blasus iawn. Mi wna i goginio cinio diolchgarwch yn nhŷ fy merch hynaf yn Norman yr wythnos nesaf.
Tuesday, November 13, 2012
ffair wyddoniaeth olaf
Cynhelir ffair wyddoniaeth yr ysgol bob blwyddyn. Mae tri o fy mhlant wedi cymryd rhan ers blynyddoedd. Gan mai'r flwyddyn olaf i fy mab ifancaf eleni, dyma ei ffair wyddoniaeth olaf hefyd. Roedd o'n ceisio ffeindio pa un byddai'n helpu i chi wneud syms yn well - bwyta cnau Ffrengig neu gnau pecan. Mae'n ymddangos mai cnau pecan yn gweithio dipyn yn well er bod hi'n anodd dweud yn bendant. Mae Gŵyl Ddiolchgarwch ar drothwy.
Monday, November 12, 2012
ddim yn adloniant
Roedd acqua alta arall yn Fenis ddoe, llawer gwaeth na'r disgwyl. Mae gan brif bapur newydd Japaneaidd erthygl amdano hefyd. Aeth lefel y dŵr bron at 150 cm mwy nag arfer, y chweched gwaethaf ers 140 mlynedd. Ac eto rhaid bywyd parhau; mae'r trigolion yn ceisio ymdopi. Dim ond y twristiaid (a phlant bach efallai) byddai'n cael hwyl yn rhydio'r ddinas ddyfrllyd. (y lluniau o acqua alta ym mis hydref gan Fausto)
Sunday, November 11, 2012
potlwc wedi'i golli
Roedd pot lwc arall ar ôl y gwasanaeth boreol. Mi wnes i baratoi Sauerkraut efo selsig ag afalau. Roedd cegin yr eglwys yn arogleuo'n hyfryd efo amrywiaeth o fwyd. Fy nhro i, fodd bynnag, i warchod y babis yn ystod y gwasanaeth oedd hi heddiw. Roedd yna bedwar babi dan dair oed. Er bod gen i help (fy merch,) roedd gofalu am bedwar babi bywiog wedi fy mlino'n lân. Roeddwn i'n teimlo'n benysgafn hyd yn oed. Felly penderfynais i ddod adref heb gymryd rhan yn y potlwc gwych. (Colled mawr!) Dw i'n teimlo'n iawn wedi cael llawer o ddŵr a chinio sydyn.
Saturday, November 10, 2012
awgrym fy nhad-yng-nghyfraith
Roedd yn annisgwyl. Byddai hynny'n suro fy uwd - dyna beth roeddwn i'n ei feddwl pan glywais i gan y gŵr bod ei dad yn rhoi llwyaid o hufen sur yn ei uwd. Fel arfer, fodd bynnag, bydd yna fwy na digon ohono ar ôl cawn ni chili, a bydd o'n aros yn yr oergell nes i mi benderfynu ei daflu fo. Felly, pam lai? Ces i fy synnu pan geisiais i am y tro cyntaf. Yn hytrach na suro'r uwd, fe ychwanegodd flas melfedaidd arno fo. Ers hynny, dyna sut dw i'n gorffen twb o hufen sur. Ces i uwd felly'r bore 'ma. Roedd yn wych.
Friday, November 9, 2012
anrheg arbennig
Ces i anrheg benblwydd arbennig gan fy merch hynaf. Tra bod hi'n gwneud gwaith artistig, mae hi'n darlunio cartŵn hynod o ddoniol hefyd. Mae ei nain wrth ei bodd yn derbyn rhai o'i gwaith o bryd i'w gilydd, yn enwedig roedd hi'n hapus dros ben tra oedd hi yn yr ysbyty. Roedd o mor dda a doniol fel bod hi'n ei ddangos i'w chyd-gleifion a'i meddyg a'i nyrsys hyd yn oed. A dyma fy un i. Mae'n anodd ei ddisgrifio be' ydy be' achos bod yna gymaint o family jokes. Dw i wrth fy modd beth bynnag.
Thursday, November 8, 2012
cinio penblwydd
Es i a'r teulu i Napoli's eto neithiwr. Roedd yn anodd dewis; penderfynais i gael spaghetti carbonara e gwin coch yn y diwedd. Roedden nhw'n dda ac roedd yna fwy na digon; roedd rhaid i mi roi hanner o'r spaghetti i'r gŵr. Dyn newydd a ddaeth â basged o fara aton ni. Roedd o'n edrych fel Eidalwr ac roedd ganddo olwg ac osgo tebyg i Roberto Benigni! Roeddwn i am siarad â fo ond doeddwn i ddim yn ddigon dewr. Y tro nesa, gobeithio.
Wednesday, November 7, 2012
diwrnod du, ond mae gobaith
Oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi,
ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i - medd yr Arglwydd,
Fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaear,
y mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chwi,
a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi.
ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i - medd yr Arglwydd,
Fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaear,
y mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chwi,
a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi.
Tuesday, November 6, 2012
lili'r dyffryn
Ces i bersawr o lili'r dyffryn yn anrheg gan y gŵr (fi a ofynnodd a dweud y gwir.) Mae o'n arogleuo'n hyfryd a fy atgoffa i o ferch yn yr ysgol amser maith yn ôl. Roedd hi'n dod o deulu cyfoeth ac yn arfer defnyddio persawr drud sef Diorissimo. (Roedd hi'n hogan glên.) Dw i'n dal i gofio i mi feddwl ar y pryd pa mor hyfryd oedd yr arogl. Pan ofynnodd y gŵr beth fyddwn i eisiau am fy mhenblwydd, roeddwn i'n meddwl am y persawr hwn ond mae o'n ofnadwy o ddrud. Yna, welais mai lili'r dyffryn ydy prif gynhwysyn Diorissimo. Dyma ffeindio hwn sy'n rhatach o lawer ac yn arogleuo'n debyg dw i'n credu. Dw i'n ei licio fo'n fawr iawn.
Monday, November 5, 2012
y pizza gorau
Wrth gwrs bod y bwyd yn Japan yn ardderchog heb os. Ond mae hyn yn anhygoel - y pizza gorau yn y byd, gwell na'r rhai a wnaed yn yr Eidal? Ces i fy synnu, bron, bod yna grŵp o arbenigwyr yn yr Eidal sy'n penderfynu pa bizza ydy'r gorau yn y byd bob blwyddyn. Ces i fy synnu o ddifrif bod nhw'n dewis pizza a wnaed tu allan i'w wlad, chwarae teg iddyn nhw. Sut maen nhw'n profi fodd bynnag tybed? Ydyn nhw'n teithio i bedwar ban byd?
Sunday, November 4, 2012
sgoriodd o!
Sgoriodd fy mab yn y gêm ddoe, ei ail gôl y tymor. Yn anffodus collodd y tîm eto 6 - 1. Mae gynnon ni sawl hogyn 12 oed o'i gymharu â'r hogiau 16 oed yn y timau eraill. Felly, mae'n anodd. Un tro pan oedd un o'n hogiau ni wrth ochr ei wrthwynebwr, roedd y ddau'n edrych fel Dafydd a Goliath. Mae'r gŵr a'r mab newydd adael am gêm oddi cartref yn Broken Arrow. Dw i'n awyddus i glywed y canlyniad.
ON: Collon nhw 7 - 1 (ddim fy mab a sgoriodd) eto, ond dwedodd y gŵr fod ein hogiau ni'n chwarae'n galetaf erioed ac mae o'n falch iawn ohonyn nhw.
ON: Collon nhw 7 - 1 (ddim fy mab a sgoriodd) eto, ond dwedodd y gŵr fod ein hogiau ni'n chwarae'n galetaf erioed ac mae o'n falch iawn ohonyn nhw.
Saturday, November 3, 2012
pleidleisio'n gynnar
Gan fod y mab hynaf adref y penwythnos 'ma, aeth o a'i dad i bleidleisio'n gynnar. (Dw i ddim yn cael ei wneud fel chi'n gwybod.) Es i dynnu lluniau. Roedd tyrfa fawr o bobl yno; clywais fod yna lawer mwy o bobl yn dod i bleidleisio'r tro 'ma. Wedi dysgu'r pynciau eraill ymlaen llaw (y bore 'ma, a dweud y gwir,) aeth y gŵr a'r mab ati a mynegi eu barn. Dw i'n wir obeithio bydd pobol America'n dewis yn gall heb gael eu twyllo gan gelwyddau braf y cyfryngau, a ballu.
Friday, November 2, 2012
tyllau
Dw i tua hanner ffordd o hyd; mae'n cymryd yn hir i ddarllen y fersiwn Eidaleg achos mai ANODD ydy hi er bod y nofel i fod i blant 9 oed ymlaen. Mae yna gynifer o eiriau dw i ddim yn eu gwybod. Ar ben hynny mae'r berfau Eidaleg yn andros o gymhleth. Penderfynais i ddarllen un bennod yn Gymraeg gyntaf yn hytrach na Saesneg cyn cychwyn ar yr un bennod yn Eidaleg er mwyn adolygu fy Nghymraeg ar yr un pryd. (Mae cyfieithiad Ioan Kidd yn ardderchog.) Fe wnes i grio eto'n darllen diwedd pennod 26. Ddweda' i ddim beth ddigwyddith rhag ofn. Dw i'n bwriadu gweld y fideo eto ar ôl gorffen y llyfr. Mae'r ffilm yn dda hefyd.
Thursday, November 1, 2012
tymor cinio spaghetti
Mae ysgol fy mab yn cynnal sawl gweithgaredd i godi pres. Un ohonyn nhw ydy cinio spaghetti. Gan fod y defnydd yn cael eu prynu ymlaen llaw gan y rhieni, bydd y pres a dalwyd gan y cwsmeriaid yn mynd i helpu'r ysgol cant y cant. Mae hynny'n dda achos nad ydy'r ffioedd yn ddigon i redeg yr ysgol. Aeth y gŵr efo rhai myfyrwyr ynghyd ein merch i gael cinio blasus a chefnogi'r ysgol ar yr un pryd. Dyma'r criw cegin.
Wednesday, October 31, 2012
llun
Mae fy ail ferch yn Corea'n brysur iawn wrth weithio'n hir bob dydd. Yn ogystal mae hi'n trio gwneud llawer mwy, dysgu Coreeg er enghraifft. Yn aml iawn mae hi o dan bwysau ac wedi blino. Er mwyn codi ei chalon, tynnais i luniau o'i moch cwta a'u gyrru ati hi. Roedd hi'n hapus gweld ei hannwyl anifeiliaid anwes a adawodd efo'i theulu. Wir, maen nhw'n annwyl (er bod hi'n dipyn o waith i ofalu amdanyn nhw.)
Tuesday, October 30, 2012
malwoden
Mae rhai pobl yn bwyta malwod. (Dw i ddim.) Dydy mam fy ngŵr ddim chwaith, ond aeth yn agos iawn at hynny'r wythnos diwethaf. Tra oedd hi a'i gŵr yn cael cinio mewn tŷ bwyta (yn Hawaii) roedd hi'n sylwi malwoden fach fach ar letys yn ei salad! Fedrith ddim siarad yn iawn ar ôl strôc flynyddoedd yn ôl, felly ei gŵr a alwodd y weinyddes a sgrechiodd wrth weld y peth. Cafodd Mam y pryd o fwyd yn rhad ac am ddim yn ogystal ag hufen iâ.
Monday, October 29, 2012
maen nhw ym mhob man
Dw i'n synnu (a ddim yn synnu ar yr un pryd) bod Radio Cymru'n medru ffeindio Cymry Cymraeg lle bynnag rhywbeth mawr yn digwydd yn y byd. Dw i newydd glywed Cymraes yn Efrog Newydd a oedd yn adrodd ei phrofiad wrth i Gorwynt Sandi nesau at y ddinas. Gobeithio bydd y bobl yn gadael eu cartrefi am lochesi diogel yn fuan.
Sunday, October 28, 2012
colled arall
2 - 1; er bod yr hogiau'n ceisio'n arw collon nhw unwaith yn rhagor. Ond roeddwn i'n falch o weld bod nhw'n gwella eu sgiliau ac maen nhw'n hogiau annwyl. Maen nhw'n mwynhau ymarfer o dan eu rheolwr dwywaith yr wythnos. Gan fod y gêm yn gorffen yn hwyr, aethon ni i Braum's am swper. Ces i Nacho Burger a oedd yn dda iawn.
Saturday, October 27, 2012
coginio yng nghanol nos
Roedd awydd coginio sydyn ar fy merch neithiwr, a dyma hi'n mynd i Wal Mart ar ôl gweld gêm bêl-droed Americanaidd y brifysgol, i brynu'r cynhwysion. Roedd hi wrthi (yn ei phyjamas) efo cymorth ei chwaer a'i brawd, a gorffen crasu apple crumble am 12:15 yn y bore! Roedd yn rhy hwyr bwyta'r gacen, felly gadawyd ar y bwrdd dros nos. Cawson ni ei blasu'r bore 'ma. Gwych iawn!
Friday, October 26, 2012
cogydd o Japan yn Fenice
Mae yna gogydd o Japan wrthi'n creu seigiau braf yn Fenice yn cyfuno ei sgil coginiol Japaneaidd, ryseitiau Fenisaidd a'r cynnyrch ffres lleol. Masa, hogyn o Osaka sy'n gweithio mewn tŷ bwyta yno wedi cael ei gyfareddu gan y bwyd lleol flynyddoedd yn ôl. Mae'r bwyd yn swnio'n flasus iawn (dw innau'n hoff o fwyd y môr) ac eithrio moeche - crancod efo cregyn meddal!
Thursday, October 25, 2012
nodiadau clên
Mae fy merch wrth ei bodd wedi cael nodiadau clên tuag at ei gwaith creadigol yn ddiweddar, gan nifer o bobl dros y byd yn llythrennol - yr Alban, Lloegr, Ffrainc, Gwlad Belg, Norway, yr Iseldiroedd, Canada, Awstralia, Taiwan, Vietnam, Singapore a mwy. Mae hi'n teimlo'n isel o bryd i'w gilydd ( fel digwyddith yn aml i artistiaid am wn i,) ond cododd y nodiadau ei chalon a rhoi nerth newydd iddi barhau o'r newydd. Un o'r pethau braf ynghyd â'r rhyngrwyd.
Wednesday, October 24, 2012
gwaith newydd i superman
Clywais fod Superman am adael ei gwmni papur newydd. Mae o'n anfodlon bod y papur yn cario gormod o adloniant. Bydd o'n gweithio liwt ei hun o hyn ymlaen. Dw i heb weld y ffilmiau diweddar a dweud y gwir; roeddwn i'n arfer gweld y gyfres gyntaf (du a gwyn!!) ar y teledu. Cymerodd dipyn iddo droi'n arwr ar yr adeg hynny oherwydd ei fod o'n gorfod chwilio am flwch ffôn i newid ei ddillad ynddo fo. Mae'r amser yn mynd!
Tuesday, October 23, 2012
pwy?
Es i swyddfa'r post y bore 'ma. Pan agorais y drws i fynd allan wedi gorffen y busnes, gwelais i gar wedi'i barcio o flaen y drws. Pwy oedd yn eistedd ar sedd wrth ochr y llyw ond hwn!
Monday, October 22, 2012
hen "encyclopedia"
Mae gynnon ni hen set o "encyclopedia" i blant a anfonwyd gan dad y gŵr yn Hawaii. Hen iawn ydy hi - argraffwyd yn 1969. Roedd y gŵr a biau hi. Er bod llawer o wybodaeth yn rhy hen wrth reswm, mae yna ddigon o ffeithiau sydd ddim yn newid. Ar ben hynny, mae'n ddiddorol gweld y bywydau a fu. A dweud y gwir, bydda i'n mynd ati braidd yn aml. Roedd llanastr ar y silff y mae'r set arni hi, a dyma benderfynu rhoi trefn arni. Mae'n hawdd ei defnyddio bellach.
Sunday, October 21, 2012
yr ymbarel
Llwyddodd fy mhlant i greu drama a'i recordio unwaith eto. Roeddwn i'n sylwi bod nhw wrthi yn eu hystafell rhwng eu gwaith cartref, gwaith rhan amser a gêm bêl-droed. Dw i'n llawn edmygedd bod nhw wedi sgrifennu'r sgript, actio, casglu'r effeithiau sain amrywiol a recordio ar y cyfrifiadur.
Saturday, October 20, 2012
"apple turnover"
Mae fy merched i gyd yn hoff o goginio, yn annhebyg i'w mam. Mae'r ddwy (sydd yn dal i fyw cartref) yn brysur efo'u gwaith cartref fel arfer, ond byddan nhw'n crasu pethau blasus pan gân nhw amser. Datganon nhw ddoe eu bydden nhw eisiau profi "apple turnover" a welon nhw'r rysait ar y we. A dyma nhw wrthi am awr neu ddwy. Roedd y canlyniad yn ardderchog!
Friday, October 19, 2012
gêm arall
Es i weld gêm gartref y brifysgol neithiwr. Clywais i eu bod nhw'n gwneud yn dda iawn yn ddiweddar efo rheolwr newydd - 19eg yn holl Unol Daleithiau. Roedd y tîm arall yn dda hefyd ac roedd yn gêm agos; 1-1. Dw i ddim yn mynd i gemau'n aml (dim ond y gemau'r tîm fy mab) felly ces i fy synnu'n gweld pa mor gyflym mae'r chwaraewyr yn medru rhedeg a thrin y bêl yn fedrus. (Pêl-droed dw i'n ei feddwl, fydda i ddim yn gweld dim arall!)
Thursday, October 18, 2012
tŷ bwyta newydd
Mae'r tŷ bwyta hwn yn y dref ers blynyddoedd, ond roedd dyma'r tro cyntaf i mi fynd yno. Roeddwn i a'r teulu eisiau trio rhywle newydd, a phenderfynon ni brofi'r tŷ bwyta bach teuluol hwn sydd gan ond un cogydd ac un weinyddes. Roedd eu carped newydd gael ei olchi, felly roedd i'r cwsmeriaid eistedd at y byrddau wrth y waliau. Dechreuais i feddwl a oedden ni'n gwneud camgymeriad, ond ces i fy siomi ar yr ochr orau! Roedd y cawl tatws a'r frechdan gyw iâr wedi'i thostio'n anhygoel o dda. Roedd pob un o'r teulu'n fodlon efo ei fwyd hefyd. Doedd ryfedd bod y lle yn llawn erbyn i ni orffen. Mae gen i ffefryn newydd bellach.
Wednesday, October 17, 2012
peth bach braf
Diwrnod cyntaf gwyliau'r hydref ydy hi heddiw, i blant yr ysgol o leiaf. Wedi siarad efo'r athrawon yn bersonol, es i'r eglwys sy'n ddrws nesa i'r ysgol i lanhau'r tai bach. Mae'r aelodau'n glanhau'r adeilad a thorri'r lawnt. Y fi sy'n gyfrifol am y tai bach. Hwrê! Mae gynnon ni holders papur tŷ bach newydd sbon. Roedd gan yr hen holders gynllun ofnadwy a oedd yn arfer brifo fy mysedd pan rois i roliau newydd. Penderfynais i ofyn i George sydd yn gwneud y gwaith cynnal a chadw wythnos yn ôl am osod rhai newydd. Un dibynadwy a gweithgar ydy o. (Mae o yn ei 80au.)
Tuesday, October 16, 2012
eli malwen
Mae yna amrywiaeth enfawr o eli i'r croen yn Corea yn ôl fy merch yna. Y mwyaf poblogaidd yn ddiweddaraf ydy eli malwen! Mae fy merch yn ei ddefnyddio ers dyddiau ac mae hi'n gwarantu fod o'n effeithiol. Fydda i byth ei ddefnyddio er pa mor effeithiol ydy o. Dw i ddim yn licio'r syniad; dw i'n foddlon efo eli ginseng.
Monday, October 15, 2012
nodyn bach
Dw i'n hoffi'r nodyn bach dw i'n ei dderbyn ar gongl sgrin y cyfrifiadur pan ga' i neges e-bost. Mae o'n dangos gan bwy mae'r neges yn dod am eiliad (digon hir i fedru darllen y pwnc hefyd os dach chi at y cyfrifiadur.) Bydda i wrth fy modd pryd bynnag gwela' i neges gan fy merch hynaf. Ar y llaw arall, pan ddwedith y nodyn mai ond hysbyseb ydy'r neges, fydd dim rhaid i mi ei gweld; neu bydda i'n ei dileu'n syth.
Sunday, October 14, 2012
mae o'n dod adref
Mae'r gŵr newydd fy ffonio o faes awyr Dallas. Mae o'n dod adref heno wedi treulio wythnos yn Japan. Yn ffodus doedd dim damwain nag afiechyd yn y teulu tra oedd o oddi cartref. Roedd yn stormus ddoe ond mae'n braf heddiw. Torrodd fy mab y lawnt blaen p'nawn 'ma. Mae yna gawl cyw iddo gael pan ddoith yn ôl mewn oriau. (Gadawodd ei gar ym maes awyr Tulsa, felly does dim rhaid i mi fynd.) Mae gwyliau'r hydref ar y trothwy.
Saturday, October 13, 2012
myfyrio
Does dim rhaid i mi yrru heddiw. Does dim ysgol na gêm bêl-droed. Mae yna ddau lyfr yn fy nisgwyl yn y llyfrgell ond dw i ddim eisiau mynd heddiw. Efallai bydda i'n mynd am dro nes ymlaen. Ar wahân i'r gwaith tŷ, darllen (llyfrau ac ar y we) a wna' i heddiw. Mae yna gymaint o wybodaeth ar gael ar y we. Dw i'n synnu o'r newydd. Mae yna ddrysau a nenfwd o Venice yn Villa Vizcaya yn Miami, Florida. Cawson nhw eu dwyn gan Napoleon ac yna, cawson nhw eu gwerthu mewn arwerthiant rhywle. Gallai'r drysau adrodd hanes diddorol pe bydden nhw'n gallu siarad.
Friday, October 12, 2012
bargen
Mae'n mynd yn anos fyth ffeindio dillad dw i'n eu hoffi; dw i ddim yn hoffi'r ffasiwn ddiweddar o gwbl. Ia, hen ffasiwn dw i. Yr unig le sy'n gwerthu dillad fy steil ydy siopau elusen. Ffeindiais i fargen - tri chrys am $7.56 gan gynnwys y dreth, ac maen nhw'n steil "traddodiadol." Dw i'n hapus iawn efo nhw yn enwedig y crys gwyrdd olewydd - fy hoff liw. Hwrê!
Thursday, October 11, 2012
er cof am t.llew
Dw i newydd ddarllen y newyddion am gystadleuaeth er cof am T. Llew Jones. Gobeithio bod yna awdur/awduron sy'n medru sgrifennu storiâu cystal â fo. Byddai hyn yn gamp; byddai'n anodd ei guro. Pwy ddwedodd bod storiâu da i blant yn apelio at oedolion hefyd? Cytuno'n llwyr - yn enwedig rhai Cymraeg gan fod dysgwyr yn darllen storiau i blant yn aml. Dw i byth yn anghofio pan ddarllenais i un o'i nofelau am y tro cyntaf.
Wednesday, October 10, 2012
cymorth drwy skype
Mae fy merch angen help efo ei gwaith cartref yn aml (mathemateg.) Mae ei thad neu ei chwaer hyn yn ei helpu fel arfer. Mae o yn Japan yr wythnos yma ac roedd ei chwaer yn gweithio yn Braum's pan roedd hi angen help un noson. (Fedra i ddim, chi'n gweld.) Pan oeddwn i'n sgwrsio efo'r gŵr, dyma hi'n dod a gofyn a allai hi siarad â'i thad. Llwyddodd i gael cymorth wrth ddangos ei phapur ato fo drwy'r camera!
Tuesday, October 9, 2012
celf ewinedd
Mae fy merch wrthi. Bydd hi'n dysgu sut i'w wneud ar You Tube. Roedd hi'n defnyddio papur newydd i roi llythrennau ar ei hewinedd o'r blaen Y tro hwn, darluniodd golwg yn y nos efo lleuad gilgant arnyn nhw. Mae hi'n hoff iawn o ddarlunio, a dyma gynfasau bychan iddi hi.
Monday, October 8, 2012
hidlen dŵr
Aeth tri o aelodau'r eglwys i Haiti i balu ffynhonnau a dychwelyd yn ddiweddar. Aethon nhw â pheiriant cloddio sydd yn gweithio'n effeithiol iawn a llwyddo i balu nifer o ffynhonnau dros y bobl sy'n dal i ddioddef yno. Dangoson nhw "welltyn" dyfeisgar hefyd; hidlen dŵr ydy o. Mae o'n medru hidlo dros 700 litr o ddŵr budr. Bydd o'n help enfawr i bobl sydd heb ddŵr glân. Er mwyn dangos sut mae o'n gweithio, yfodd un o'r tri ddŵr a gasglwyd yn ffrwd y dref. (Gweler lliw'r dŵr!)
Sunday, October 7, 2012
3 - 1
Enillodd tîm fy mab am y tro cyntaf! Y tro hwn roedd nerth y tîm arall yn gyfartaledd â ni ac roedd ein hogia ni'n ardderchog. Mi wnes i e-bostio at y gŵr a oedd newydd gyrraedd Japan. Drueni ohono fo'n methu rhannu'r fuddugoliaeth gyntaf efo nhw. Roedd yn oer a gwlyb gyda llaw!
Saturday, October 6, 2012
'dyn' rhagolygon y tywydd ifancaf
Dim ond 12 oed ydy Tomoki Kai (fy nghyfenw cyn priodi!) sydd newydd basio prawf rhagolygon y tywydd yn Japan. Fo ydy'r ifancaf a gyflawnodd y gamp. Mae pump y cant yng nghyfartaledd yn pasio'r prawf caled bob blwyddyn. Roedd o'n wastad ymddiddori yn y tywydd wedi cael ei gyfareddu gan symudiadau cyflym y cymylau pan oedd o yn yr ysgol feithrin. Mae o wedi bod yn astudio'n ddyfal, a llwyddodd ar ei bedwaredd cais. "Roedd yn galed ond hwyl oherwydd fy mod i'n gwirioni ar y pwnc," meddai. Mae o eisiau gweithio i asiantaeth feteoroleg Japan neu wneud y gwaith ymchwilio yn y dyfodol.
Friday, October 5, 2012
tebyg iawn
Thursday, October 4, 2012
gorsaf tokyo
Pan welais yr orsaf ym mis Mawrth, roedd hi'n dal o dan orchudd (y llun) ond clywais i ei bod hi newydd orffen. Mae hi'n edrych yn arbennig o brydferth. Wedi clywed bod y teil a wnaed yn Ishinomaki (y dref a gafodd ei dinistrio gan y tsunami) eu defnyddio ar y to, mae'r gŵr yn awyddus i ymweld â'r orsaf tra bydd o yn Japan yr wythnos nesaf.
Wednesday, October 3, 2012
y wers olaf
Dw i wedi bod yn dilyn gwersi Eidaleg dyddiol ar lein a gynhyrchwyd gan NHK o Japan. Dechreuon nhw ym mis Ebrill a heddiw oedd y wers olaf gan Sayano Osaki, y tiwtor. Dechreuodd hi o'r dechrau efo help Eidalwr. Mae hi'n medru esbonio'r gramadeg yn dda ac er bod bob gwers yn para ond 15 munud, dw i wedi dysgu gryn dipyn. Bydd cwrs newydd yn dechrau'r wythnos nesa ymlaen efo tiwtor arall a phara am chwe mis. Byddai'n colli Ms. Osaki.
Tuesday, October 2, 2012
cacen benblwydd
"Wnei di gynnig y rhain i'r bobl?" meddai mam ifanc yn ystod yr amser coffi cyn y gwasanaeth boreol. Mae ei babi bach newydd droi'n flwydd oed; cupcakes penblwydd oedden nhw. Roedden nhw'n edrych yn arbennig o dda, yn enwedig yr eisin glas a oedd yn ymddangos union fel ffwr Cookie Monster. Y tad a wnaeth, wir i chi!
Monday, October 1, 2012
anifeiliaid anwes?
Mae fy ail ferch yn dal yn gweithio yn Corea. Cawson ni sgwrs Skype am y tro cyntaf ers wythnosau. Mae ganddi hi anifeiliaid anwes newydd ac roedd hi eisiau inni ddyfalu beth ydyn nhw. Roedd yn anodd credu bod ganddi unrhyw anifail gan ystyried pa mor brysur ydy hi. Wedi inni fethu rhoi'r ateb cywir, datguddiodd hi ei "hanifeiliaid" - ddwy falwoden. Cafodd yr ysgol nhw i'r plant ond doedd neb yn gofalu amdanyn nhw ac roedden nhw'n newynu. Penderfynodd hi eu "mabwysiadu" (efo caniatâd yr ysgol.) Gallai hi eu gadael nhw yn yr ardd unrhyw adeg wrth gwrs, ond am y tro, nhw ydy ei hanifeiliaid anwes.
Sunday, September 30, 2012
nofel hanesyddol - 2
Dw i'n hoff iawn o nofelau hanesyddol. Dw i newydd ddechrau ar The Lion of St. Mark a sgrifennwyd ym 1889. Er bod y nofel ar gyfer plant, mae hi'n hynod o ddiddorol oherwydd cefndir y stori a chrefft yr awdur. Mae'r stori'n cael ei lleoli yn Venice yn y 14 ganrif tra oedd Venice a Genoa benben â'i gilydd.
Mae'r awdur o Loegr, sef G.A. Henty yn fy atgoffa i o T. Llew Jones. Sgrifennodd dros 80 o nofelau (y rhan fwyaf ohonyn nhw'n storiau hanesyddol) ar gyfer plant. Dyma'r tro cyntaf i mi ddarllen un o'i lyfrau, felly fedrai ddim dweud dim am y gweddill. Mae'r nofel hon yn dda iawn fodd bynnag efo stori gyffroes a chyfle i nabod y lleoliad a'r hanes. Mae yna beth braf arall, hynny ydy, mae'r llyfr hwn a nifer mawr o'i lyfrau ar gael mewn ffurf electronig gan Amazon yn rhad ac am ddim.
Mae'r awdur o Loegr, sef G.A. Henty yn fy atgoffa i o T. Llew Jones. Sgrifennodd dros 80 o nofelau (y rhan fwyaf ohonyn nhw'n storiau hanesyddol) ar gyfer plant. Dyma'r tro cyntaf i mi ddarllen un o'i lyfrau, felly fedrai ddim dweud dim am y gweddill. Mae'r nofel hon yn dda iawn fodd bynnag efo stori gyffroes a chyfle i nabod y lleoliad a'r hanes. Mae yna beth braf arall, hynny ydy, mae'r llyfr hwn a nifer mawr o'i lyfrau ar gael mewn ffurf electronig gan Amazon yn rhad ac am ddim.
Saturday, September 29, 2012
peintiad newydd
Mae fy merch hynaf newydd gwblhau peintiad arall. Fel arfer mae hi'n hoffi paentio merched ond y tro hwn dyn ydy ei model. Mae'r peintiad yn gyfuniad o ddau ffigur hanesyddol, sef Benkei a St. Sebastian. Mae'r ddau'n dod o ddiwylliannau hollol wahanol ond mae ganddyn nhw ddau beth yn gyffredin - Cawson nhw eu llad am eu ffyddlondeb a chawson nhw eu saethu. Dw i ddim yn gyfarwydd â hanes St. Sebastian ond mae pawb yn Japan yn gwybod pwy oedd Benkei a sut buodd farw. Mae cynifer o ffilmiau wedi eu gwneud am ei fywyd dros flynyddoedd. Mae o'n ffigur poblogaidd yn y byd Kabuki hefyd.
Friday, September 28, 2012
yn ôl at ei fflat
Mae fy mam yn Japan newydd ddychwelyd at ei fflat wedi treulio bron dau fis yn yr ysbyty; baglodd dros rywbeth a thorri ei phen-glin eto. Tra oedd hi yn yr ysbyty, darganfuwyd briw yn y coluddion ac roedd hi yng nghyflwr difrifol ar un adeg. Mae hi wedi dod drwodd fodd bynnag a dechrau cerdded efo cymorth ffon. A dyma hi'n cael mynd yn ôl at ei fflat i ailgychwyn ei bywyd efo cymorth gofalwraig yn hytrach na symud i gartref henoed . Roedd hi'n swnio'n fywiog iawn pan siaradais â hi ar y ffôn. Bydd y gŵr yn mynd i Japan yr wythnos nesaf ar fusnes ac ymweld â hi hefyd. (y llun: Mam ar wyliau efo fi ym mis Mawrth)
Thursday, September 27, 2012
dau dditectif
Fel dach chi'n gwybod mod i'n gwirioni ar Commissario Brunetti, sef y ditectif yn nofelau Donna Leon. Mae'r gŵr yn hoff iawn o gyfres Japaneaidd, a'i darllen pan oes ganddo fo amser. Dw i newydd sylweddoli bod y ditectif Japaneaidd o'r enw Totsukawa yn eithaf tebyg i Brunetti, eu moddau i ymchwilio'r troseddau er enghraifft. Mae gan y ddau bennaeth sy'n pryderu bod eu ditectifs ddim yn ddigon cwrtais wrth wleidyddion neu bobl ddylanwadol. Mae Nishimura, yr awdur Japaneaidd, yn enwog am sgrifennu travel mysteries sy'n lleoli mewn ardaloedd amrywiol yn Japan.
Wednesday, September 26, 2012
enwau
Gan fy mod i'n byw yng nghanol Cenedl Cherokee, mae yna gynifer o enwau llefydd sy'n tarddu o'i diwylliant wrth reswm. Mae enw'r dref, sef Tahlequah, dw i'n byw ynddi er enghraifft, yn golygu "dau sydd yn ddigon." (Fyddwn i ddim am ddechrau adrodd yr hanes yma.) Pan oeddwn i'n mynd am dro ddyddiau'n ôl, des i ar draws enw'r ffordd unigryw hwn yn agos at y brifysgol.
Subscribe to:
Posts (Atom)