Sunday, October 20, 2013

llwybr cyfarwydd

Dw i'n gwirioni ar y wefan hon - A Lover of Venice. Mae yna orlawn o wybodaeth am Fenis ac mae'n amlwg bod yr awdur yn caru'r dref a'i nabod hi'n drylwyr. Roeddwn i'n ei darllen a sgrifennu nodiau cyn mynd i Fenis fis Mai eleni er mwyn ymweld รข rhai llefydd swynol ond anhysbys. Mae yna nifer mawr o wefannau tebyg ond yn fy nhyb i hon ydy'r orau ymysg y wefannau Saesneg. Dw i'n edrych ymlaen at Picture of the Week, yn enwedig y cwis - rhaid dyfalu lle mae'r llun yn cael ei dynnu. Mae'r llwybr yn y llun diweddaraf (Hydref 18) yn edrych yn gyfarwydd iawn. Mae'n edrych fel y llwybr roeddwn i'n cerdded arno bob dydd rhwng fy llety a'r ysgol Eidaleg. Gyrrais ebost sydyn at yr awdur a chael ateb yn syth; dw i'n iawn!

No comments: